Llyfr Josua 11
1ac yn torri yr Anaciaid. A phan glybu Jabin brenhin Hasor y pethau hynny, efe a anfonodd at Jobab brenhin Madon, ac at frenhin Simron, ac at frenin Achsaph,
2Ac at y brenhinoedd oedd o du y gogledd yn y mynydd-dir, ac yn y rhosdir tu a’r dehau i Cinneroth, ac yn y dyffryn, ac yn ardaloedd Dor tu a’r gorllewin;
3At y Canaaneaid o’r dwyrain a’r gorllewin, ac at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Phereziaid, a’r Jebusiaid, yn y mynydd-dir, ac at yr Hefiaid dan Hermon, y’ngwlad Mispeh.
4A hwy a aethant allan, a’u holl fyddinoedd gyd â hwynt, pobl lawer, fel y tywod sydd ar fin y môr o amldra; meirch hefyd a cherbydau lawer iawn.
5A’r holl frenhinoedd hyn a ymgyfarfuant; daethant hefyd a gwersyllasant ynghyd wrth ddyfroedd Merom, i ymladd yn erbyn Israel.
6¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt hwy: canys y fory ynghylch y pryd hyn y rhoddaf hwynt oll yn lladdedig o flaen Israel: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorri, a’u cerbydau a losgi di â thân.
7Felly Josua a ddaeth, a’r holl bobl o ryfel gyd âg ef, yn ddisymmwth arnynt hwy wrth ddyfroedd Merom; a hwy a ruthrasant arnynt.
8A’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a’u tarawsant hwynt, ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misrephoth-maim, ac hyd glyn Mispeh o du y dwyrain; a hwy a’u tarawsant hwynt, fel na adawodd efe o honynt un y’ngweddill.
9A Josua a wnaeth iddynt fel yr archasai yr Arglwydd iddo: llinynnau garrau eu meirch hwynt a dorrodd efe, a’u cerbydau a losgodd â thân.
10¶ A Josua y pryd hwnnw a ddychwelodd, ac a ennillodd Hasor, ac a darawodd ei brenhin hi â’r cleddyf: canys Hasor o’r blaen oedd ben yr holl deyrnasoedd hynny.
11Tarawsant hefyd bob enaid a’ r oedd ynddi â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: ni adawyd un perchen anadl: ac efe a losgodd Hasor â thân.
12A holl ddinasoedd y brenhinoedd hynny, a holl frenhinoedd hwynt, a ennillodd Josua, ac a’u tarawodd â min y cleddyf, gan eu difrodi hwynt: megis y gorchymynasai Moses gwas yr Arglwydd.
13Ond ni losgodd Israel yr un o’r dinasoedd oedd yn sefyll yn eu cadernid; namyn Hasor yn unig a losgodd Josua.
14A holl anrhaith y dinasoedd hynny, a’r anifeiliaid, a ysglyfaethodd meibion Israel iddynt eu hun: yn unig pob dyn a darawsant hwy â min y cleddyf, nes iddynt eu difetha; ni adawsant berchen anadl.
15¶ Fel y gorchymynasai yr Arglwydd i Moses ei was, felly y gorchymynodd Moses i Josua, ac felly y gwnaeth Josua; ni adawodd efe ddim o’r hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd i Moses.
16Felly Josua a ennillodd yr holl dir hwnnw, y mynyddoedd, a’r holl ddehau, a holl wlad Gosen, a’r dyffryn, a’r gwastadedd, a mynydd Israel, a’i ddyffryn;
17O fynydd Halac, yr hwn sydd yn myned i fynu i Seir, hyd Baal-Gad, y’nglyn Libanus, dan fynydd Hermon: a’u holl frenhinoedd hwynt a ddaliodd efe; tarawodd hwynt hefyd, ac a’u rhoddodd i farwolaeth.
18Josua a gynhaliodd ryfel yn erbyn yr holl frenhinoedd hynny ddyddiau lawer.
19Nid oedd dinas a’r a heddychodd â meibion Israel, heb law yr Hefiaid preswylwyr Gibeon; yr holl rai eraill a ennillasant hwy trwy ryfel.
20Canys o’r Arglwydd yr ydoedd galedu eu calon hwynt i gyfarfod âg Israel mewn rhyfel, fel y difrodai efe hwynt, ac na fyddai iddynt drugaredd; ond fel y difethai efe hwynt, fel y gorchymynasai yr Arglwydd wrth Moses.
21¶ A’r pryd hwnnw y daeth Josua ac a dorrodd yr Anaciaid ymaith o’r mynydd-dir, o Hebron, o Debir, o Anab, ac o holl fynyddoedd Judah, ac o holl fynyddoedd Israel: Josua a’u difrododd hwynt a’u dinasoedd.
22Ni adawyd un o’r Anaciaid y’ngwlad meibion Israel: yn unig yn Gazah, yn Gath, ac yn Asdod, y gadawyd hwynt.
23Felly Josua a ennillodd yr holl wlad, yn ol yr hyn oll a lefarasai yr Arglwydd wrth Moses; a Josua a’i rhoddodd hi yn etifeddiaeth i Israel, yn ol eu rhannau hwynt, trwy eu llwythau. A’r wlad a orphwysodd heb ryfel.