The Bible Software
Llyfr Josua · Beibl (1620)

Llyfr Josua 22

1Hwythau yn eu boddloni hwynt yn helaeth. Yna Josua a alwodd y Reubeniaid a’r Gadiaid, a hanner llwyth Manasseh,

2Ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a gadwasoch yr hyn oll a orchymynodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, ac a wrandawsoch ar fy llais yn yr hyn oll a orchymynnais i chwi.

3Ni adawsoch eich brodyr, er ys llawer o ddyddiau bellach, hyd y dydd hwn; ond cadwasoch reol gorchymyn yr Arglwydd eich Duw.

4Ac yn awr yr Arglwydd eich Duw a roddes esmwythdra i’ch brodyr, fel y llefarodd wrthynt: yn awr gan hynny trowch, ac ewch rhagoch i’ch pebyll, i wlad eich meddiant, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi, o’r tu hwnt i’r Iorddonen.

5Yn unig cedwch yn ddyfal ar wneuthur y gorchymyn a’r gyfraith a orchymynodd Moses gwas yr Arglwydd i chwi; sef caru yr Arglwydd eich Duw, a rhodio yn ei holl ffyrdd ef, a chadw ei orchymynion ef, a glynu wrtho ef, a’i wasanaethu ef â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid.

6A Josua a’u bendithiodd hwynt, ac a’u gollyngodd ymaith. A hwy a aethant i’w pebyll.

7¶ Ac i hanner llwyth Manasseh y rhoddasai Moses etifeddiaeth yn Basan; ac i’r hanner arall y rhoddodd Josua, gyd â’u brodyr, tu yma i’r Iorddonen tu a’r gorllewin. Hefyd pan ollyngodd Josua hwynt i’w pebyll, yna efe a’u bendithiodd hwynt;

8Ac efe a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Dychwelwch â chyfoeth mawr i’ch pebyll, âg anifeiliaid lawer iawn, âg arian, ac âg aur, â phres hefyd, ac â haiarn, ac â gwisgoedd lawer iawn: rhennwch â’ch brodyr anrhaith eich gelynion.

9¶ A meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh, a ddychwelasant, ac a aethant ymaith oddi wrth feibion Israel, o Siloh, yr hon sydd y’ngwlad Canaan, i fyned i wlad Gilead, i wlad eu meddiant hwy, yr hon a feddiannasant, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.

10¶ A phan ddaethant i gyffiniau yr Iorddonen, y rhai sydd y’ngwlad Canaan, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh, a adeiladasant yno allor wrth yr Iorddonen, allor fawr mewn golwg.

11¶ A chlybu meibion Israel ddywedyd, Wele, meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh, a adeiladasant allor ar gyfer gwlad Canaan, wrth derfynau yr Iorddonen, gan ystlys meibion Israel.

12A phan glybu meibion Israel hynny, yna holl gynnulleidfa meibion Israel a ymgynnullasant i Siloh, i ddyfod i fynu yn eu herbyn hwynt i ryfel.

13A meibion Israel a anfonasant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasseh, i wlad Gilead, Phinees mab Eleazar yr offeiriad,

14A deg o dywysogion gyd âg ef, un tywysog o bob tŷ, pennaf trwy holl lwythau Israel; a phob un oedd ben yn nhŷ eu tadau, ym mysg miloedd Israel.

15A hwy a ddaethant at feibion Reuben, ac at feibion Gad, ac at hanner llwyth Manasseh, i wlad Gilead; ac a ymddiddanasant â hwynt, gan ddywedyd,

16Fel hyn y dywed holl gynnulleidfa yr Arglwydd, Pa gamwedd yw hwn a wnaethoch yn erbyn Duw Israel, gan ddychwelyd heddyw oddi ar ol yr Arglwydd, pan adeiladasoch i chwi allor, i wrthryfela heddyw yn erbyn yr Arglwydd?

17Ai bychan gennym ni anwiredd Peor, yr hwn nid ymlanhasom oddi wrtho etto hyd y dydd hwn, er bod pla ym mysg cynnulleidfa yr Arglwydd,

18Ond bod i chwi droi ymaith heddyw oddi ar ol yr Arglwydd? Ac am i chwi wrthryfela heddyw yn erbyn yr Arglwydd, efe a lidia y fory yn erbyn holl gynnulleidfa Israel.

19Ac od yw gwlad eich meddiant chwi yn aflan, deuwch drosodd i wlad meddiant yr Arglwydd, yr hon y mae tabernacl yr Arglwydd yn aros ynddi, a chymmerwch feddiant yn ein mysg ni: ond na wrthryfelwch yn erbyn yr Arglwydd, ac na childynnwch i’n herbyn ninnau, trwy adeiladu o honoch i chwi eich hun allor, heb law allor yr Arglwydd ein Duw.

20Oni wnaeth Achan mab Zerah gamwedd, o herwydd y dïofryd-beth, fel y bu digofaint yn erbyn holl gynnulleidfa Israel? ac efe oedd un gwr; etto nid efe yn unig a fu farw am ei anwiredd.

21¶ Yna meibion Reuben, a meibion Gad, a hanner llwyth Manasseh, a attebasant, ac a lefarasant wrth bennaethiaid miloedd Israel;

22Arglwydd Dduw y duwiau, Arglwydd Dduw y duwiau, efe sydd yn gwybod, ac Israel yntau a gaiff wybod, os mewn gwrthryfel, neu mewn camwedd yn erbyn yr Arglwydd y bu hyn, (na wareder ni y dydd hwn,)

23Os adeiladasom i ni allor i droi oddi ar ol yr Arglwydd, neu os offrymmasom arni boeth-offrwm, neu fwyd-offrwm, neu os aberthasom arni ebyrth hedd; yr Arglwydd ei hun a’i gofyno:

24Ac onid rhag ofn y peth yma y gwnaethom hyn; gan ddywedyd, Ar ol hyn eich meibion chwi a adroddant wrth ein meibion ninnau, gan ddywedyd, Beth sydd i chwi a wneloch âg Arglwydd Dduw Israel?

25Canys yr Arglwydd a roddodd yr Iorddonen hon yn derfyn rhyngom ni a chwi: meibion Reuben, a meibion Gad, nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd. Felly y gwnai eich meibion chwi i’n meibion ni beidio âg ofni yr Arglwydd.

26Am hynny y dywedasom, Gan adeiladu gwnawn yn awr i ni allor: nid i boeth-offrwm, nac i aberth;

27Eithr i fod yn dyst rhyngom ni a chwi, a rhwng ein hiliogaeth ni ar ein hol, i gael o honom wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd ger ei fron ef, â’n poeth-offrymmau, ac â’n hebyrth, ac â’n hoffrymmau hedd; fel na ddywedo eich meibion chwi ar ol hyn wrth ein meibion ni, Nid oes i chwi ran yn yr Arglwydd.

28Am hynny y dywedasom, Pan ddywedont hwy felly wrthym ni, neu wrth ein heppil ar ol hyn; yna y dywedwn ninnau, Gwelwch lun allor yr Arglwydd, yr hon a wnaeth ein tadau ni, nid i boeth-offrwm, nac i aberth; ond i fod yn dyst rhyngom ni a chwi.

29Na atto Duw i ni wrthryfela yn erbyn yr Arglwydd, a dychwelyd heddyw oddi ar ol yr Arglwydd; gan adeiladu allor i boeth-offrwm, i fwyd-offrwm, neu i aberth, heb law allor yr Arglwydd ein Duw yr hon sydd ger bron ei dabernacl ef.

30¶ A phan glybu Phinees yr offeiriad, a thywysogion y gynnulleidfa, a phennaethiaid miloedd Israel y rhai oedd gyd âg ef, y geiriau a lefarasai meibion Reuben, a meibion Gad, a meibion Manasseh, da oedd y peth yn eu golwg hwynt.

31Phinees mab Eleazar yr offeiriad a ddywedodd wrth feibion Reuben, ac wrth feibion Gad, ac wrth feibion Manasseh, Heddyw y gwybuom fod yr Arglwydd yn ein plith; o herwydd na wnaethoch y camwedd hwn yn erbyn yr Arglwydd: yn awr gwaredasoch feibion Israel o law yr Arglwydd.

32¶ Am hynny y dychwelodd Phinees mab Eleazar yr offeiriad, a’r tywysogion, oddi wrth feibion Reuben, ac oddi wrth feibion Gad, o wlad Gilead, i wlad Canaan, at feibion Israel, ac a ddygasant drachefn air iddynt.

33A da oedd y peth y’ngolwg meibion Israel; a meibion Israel a fendithiasant Dduw, ac ni soniasant am fyned i fynu yn eu herbyn hwynt i ryfel, i ddifetha y wlad yr oedd meibion Reuben a meibion Gad yn preswylio ynddi.

34A meibion Reuben a meibion Gad a alwasant yr allor Ed: canys tyst fydd hi rhyngom ni, mai yr Arglwydd sydd Dduw.

← Llyfr Josua 21Read In The App, Free →Llyfr Josua 23 →

Study Llyfr Josua 22

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324