Llyfr Josua 23:13
Gan wybod gwybyddwch, na yrr yr Arglwydd eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach allan o’ch blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 26:31A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinystriaf eich cyssegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd.
Deuteronomy 4:26Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddyw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd am danoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir.
Deuteronomy 28:63A bydd, megis ag y llawenychodd yr Arglwydd ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i’ch amlhâu; felly y llawenycha yr Arglwydd ynoch i’ch dinystrio, ac i’ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o’r tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu.
Deuteronomy 30:18Yr wyf yn mynegi i chwi heddyw, y difethir chwi yn ddïau, ac nad estynwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i’w berchennogi.
Judges 2:3Am hynny y dywedais, Ni yrraf hwynt allan o’ch blaen chwi: eithr byddant i chwi yn ddrain yn eich ystlysau, a’u duwiau fydd yn fagl i chwi.
1 Kings 11:4A phan heneiddiodd Solomon, ei wragedd a droesant ei galon ef ar ôl duw-iau dieithr: ac nid oedd ei galon ef berffaith gyda’r ARGLWYDD ei DDUW, fel y buasai calon Dafydd ei dad ef. º