The Bible Software
Llyfr Josua · Beibl (1620)

Llyfr Josua 23

1a thrwy fygythion. A darfu, ar ol dyddiau lawer, wedi i’r Arglwydd roddi llonyddwch i Israel gan eu holl elynion o amgylch, i Josua heneiddio a myned mewn dyddiau.

2A Josua a alwodd am holl Israel, am eu henuriaid, ac am eu pennaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion; ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a heneiddiais ac a euthum yn oedrannus:

3Chwithau hefyd a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r holl genhedloedd hyn, er eich mwyn chwi: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn a ymladdodd drosoch.

4Gwelwch, rhennais i chwi y cenhedloedd hyn a adawyd, yn etifeddiaeth i’ch llwythau chwi, o’r Iorddonen, a’r holl genhedloedd y rhai a dorrais i ymaith, hyd y môr mawr tu a’r gorllewin.

5A’r Arglwydd eich Duw a’u hymlid hwynt o’ch blaen chwi, ac a’u gyrr hwynt ymaith allan o’ch gŵydd chwi; a chwi a feddiennwch eu gwlad hwynt, megis y dywedodd yr Arglwydd eich Duw wrthych.

6Am hynny ymwrolwch yn lew, i gadw ac i wneuthur y cwbl sydd ysgrifenedig yn llyfr cyfraith Moses; fel na chilioch oddi wrthynt, tu a’r llaw ddehau na thu a’r llaw aswy;

7Ac na chyd-ymgyfeilloch â’r cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyd â chwi; ac na chofioch enw eu duwiau hwynt, ac na thyngoch iddynt, na wasanaethoch hwynt chwaith, ac nac ymgrymmoch iddynt:

8Ond glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, fel y gwnaethoch hyd y dydd hwn.

9Canys yr Arglwydd a yrrodd allan o’ch blaen chwi genhedloedd mawrion a nerthol: ac am danoch chwi, ni safodd neb yn eich wynebau chwi hyd y dydd hwn.

10Un gwr o honoch a erlid fil: canys yr Arglwydd eich Duw yw yr hwn sydd yn ymladd drosoch, fel y llefarodd wrthych.

11Ymgedwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, ar i chwi garu yr Arglwydd eich Duw.

12Canys, os gan ddychwelyd y dychwelwch, ac yr ymlynwch wrth weddill y cenhedloedd yma, y rhai a adawyd gyd â chwi; os ymgyfathrechwch â hwynt, ac os ewch i mewn attynt hwy, a hwythau attoch chwithau:

13Gan wybod gwybyddwch, na yrr yr Arglwydd eich Duw y cenhedloedd hyn mwyach allan o’ch blaen chwi; ond byddant i chwi yn fagl ac yn dramgwydd, ac yn ffrewyll yn eich ystlysau, ac yn ddrain yn eich llygaid, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma yr hon a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.

14Ac wele fi yn myned heddyw i ffordd yr holl ddaear: a chwi a wyddoch yn eich holl galonnau, ac yn eich holl eneidiau, na phallodd dim o’r holl bethau daionus a lefarodd yr Arglwydd eich Duw am danoch chwi; hwy a ddaethant oll i chwi, ac ni phallodd dim o honynt.

15Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.

16Pan droseddoch gyfammod yr Arglwydd eich Duw, a orchymynodd efe i chwi, a myned a gwasanaethu duwiau dïeithr, ac ymgrymmu iddynt; yna y llidia digofaint yr Arglwydd yn eich erbyn chwi, ac y cyfrgollir chwi yn ebrwydd o’r wlad dda yma a roddodd efe i chwi.

← Llyfr Josua 22Read In The App, Free →Llyfr Josua 24 →

Study Llyfr Josua 23

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324