Llyfr Josua 24
1Marwolaeth Eleazar. A Josua a gynnullodd holl lwythau Israel i Sichem; ac a alwodd am henuriaid Israel, ac am eu pennaethiaid, ac am eu barnwyr, ac am eu swyddogion: a hwy a safasant ger bron Duw.
2A dywedodd Josua wrth yr holl bobl, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Tu hwnt i’r afon y trigodd eich tadau chwi gynt, sef Terah tad Abraham, a thad Nachor: a hwy a wasanaethasant dduwiau dïeithr.
3Ac mi a gymmerais eich tad Abraham ymaith o’r tu hwnt i’r afon, ac a’i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac.
4Ac i Isaac y rhoddais Jacob ac Esau: ac i Esau y rhoddais fynydd Seir i’w etifeddu; ond Jacob a’i feibion a aethant i waered i’r Aipht.
5A mi a anfonais Moses ac Aaron, ac a darewais yr Aiphtiaid, yn ol yr hyn a wneuthum yn eu mysg: ac wedi hynny y dygais chwi allan,
6Ac a ddygais eich tadau chwi allan o’r Aipht: a chwi a ddaethoch at y môr; a’r Aiphtiaid a erlidiodd ar ol eich tadau â cherbydau, ac â gwŷr meirch, hyd y môr coch.
7A phan waeddasant ar yr Arglwydd, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a’r Aiphtiaid, ac a ddug y môr arnynt hwy, ac a’u gorchuddiodd: eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aipht: trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer.
8A mi a’ch dygais i wlad yr Amoriaid, y rhai oedd yn trigo o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a hwy a ymladdasant i’ch erbyn: a myfi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi, fel y meddiannasoch eu gwlad hwynt; a minnau a’u difethais hwynt o’ch blaen chwi.
9Yna Balac mab Sippor brenhin Moab, a gyfododd, ac a ryfelodd yn erbyn Israel; ac a anfonodd, ac a alwodd am Balaam mab Beor, i’ch melldigo chwi.
10Ond ni fynnwn i wrandaw ar Balaam; am hynny gan fendithio y bendithiodd efe chwi: felly y gwaredais chwi o’i law ef.
11A chwi a aethoch dros yr Iorddonen, ac a ddaethoch i Jericho: a gwŷr Jericho a ymladdodd i’ch erbyn, yr Amoriaid, a’r Phereziaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Girgasiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u rhoddais hwynt yn eich llaw chwi.
12A mi a anfonais gaccwn o’ch blaen chwi, a’ r rhai hynny a’u gyrrodd hwynt allan o’ch blaen chwi; sef dau frenhin yr Amoriaid: nid â’th gleddyf di, ac nid â’th fwa.
13A mi a roddais i chwi wlad ni lafuriasoch am dani, a dinasoedd y rhai nid adeiladasoch, ac yr ydych yn trigo ynddynt: o’r gwinllannoedd a’r olew-lannoedd ni phlanasoch, yr ydych yn bwytta o honynt.
14¶ Yn awr gan hynny ofnwch yr Arglwydd, a gwasanaethwch ef mewn perffeithrwydd a gwirionedd, a bwriwch ymaith y duwiau a wasanaethodd eich tadau o’r tu hwnt i’r afon, ac yn yr Aipht; a gwasanaethwch chwi yr Arglwydd.
15Ac od yw ddrwg yn eich golwg wasanaethu yr Arglwydd, dewiswch i chwi heddyw pa un a wasanaethoch, ai y duwiau a wasanaethodd eich tadau, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r afon, ai ynte duwiau yr Amoriaid, y rhai yr ydych yn trigo yn eu gwlad: ond myfi, mi a’m tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd.
16Yna yr attebodd y bobl, ac y dywedodd, Na atto Duw i ni adael yr Arglwydd, i wasanaethu duwiau dïeithr;
17Canys yr Arglwydd ein Duw yw yr hwn a’n dug ni i fynu a’n tadau o wlad yr Aipht, o dŷ y caethiwed; a’r hwn a wnaeth y rhyfeddodau mawrion hynny yn ein gŵydd ni, ac a’n cadwodd ni yn yr holl ffordd y rhodiasom ynddi, ac ym mysg yr holl bobloedd y tramwyasom yn eu plith:
18A’r Arglwydd a yrrodd allan yr holl bobloedd, a’r Amoriaid, preswylwyr y wlad, o’n blaen ni: am hynny ninnau a wasanaethwn yr Arglwydd; canys efe yw ein Duw ni.
19A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ni ellwch wasanaethu yr Arglwydd; canys Duw sancteiddiol yw efe: Duw eiddigus yw; ni ddïoddef efe eich anwiredd, na’ch pechodau.
20O gwrthodwch yr Arglwydd, a gwasanaethu duwiau dïeithr; yna efe a dry, ac a’ch dryga chwi, ac efe a’ch difa chwi, wedi iddo wneuthur i chwi ddaioni.
21A’r bobl a ddywedodd wrth Josua, Nag ê; eithr ni a wasanaethwn yr Arglwydd.
22A dywedodd Josua wrth y bobl, Tystion ydych yn eich erbyn eich hun, ddewis o honoch i chwi yr Arglwydd i’w wasanaethu. Dywedasant hwythau, Tystion ydym.
23Am hynny yn awr, eb efe, bwriwch ymaith y duwiau dïeithr sydd yn eich mysg, a gostyngwch eich calon at Arglwydd Dduw Israel.
24A’r bobl a ddywedasant wrth Josua, Yr Arglwydd ein Duw a wasanaethwn, ac ar ei lais ef y gwrandâwn.
25Felly Josua a wnaeth gyfammod â’r bobl y dwthwn hwnnw, ac a osododd iddynt ddeddfau a barnedigaethau, yn Sichem.
26¶ A Josua a ysgrifenodd y geiriau hyn yn llyfr cyfraith Dduw, ac a gymmerth faen mawr, ac a’i gosododd i fynu yno dan dderwen oedd yn agos i gyssegr yr Arglwydd.
27A Josua a ddywedodd wrth yr holl bobl, Wele, y maen hwn fydd yn dystiolaeth i ni; canys efe a glywodd holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarodd efe wrthym: am hynny y bydd efe yn dystiolaeth i chwi, rhag i chwi wadu eich Duw.
28Felly Josua a ollyngodd y bobl, bob un i’w etifeddiaeth.
29¶ Ac wedi y pethau hyn, y bu farw Josua mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab dengmlwydd a chant.
30A hwy a’i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath-serah; yr hon sydd ym mynydd Ephraim, o du y gogledd i fynydd Gaas.
31Ac Israel a wasanaethodd yr Arglwydd holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henuriaid a fu fyw ar ol Josua, ac a wybuasent holl waith yr Arglwydd a wnaethai efe er Israel.
32¶ Ac esgyrn Joseph, y rhai a ddygasai meibion Israel i fynu o’r Aipht, a gladdasant hwy yn Sichem, mewn rhan o’r maes a brynasai Jacob gan feibion Hemor tad Sichem, er càn darn o arian; a bu i feibion Joseph yn etifeddiaeth.
33¶ Ac Eleazar mab Aaron a fu farw: a chladdasant ef ym mryn Phinees ei fab, yr hwn a roddasid iddo ef ym mynydd Ephraim.