Llyfr Josua 3:5
A Josua a ddywedodd wrth y bobl, Ymsancteiddiwch: canys y fory y gwna yr Arglwydd ryfeddodau yn eich mysg chwi.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 19:10¶ Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddyw ac yfory; a golchant eu dillad,
Leviticus 20:7¶ Ymsancteiddiwch gan hynny, a byddwch sanctaidd: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi.
Joshua 3:13A phan orphwyso gwadnau traed yr offeiriaid, sydd yn dwyn arch Arglwydd Ior yr holl fyd, yn nyfroedd yr Iorddonen, yna dyfroedd yr Iorddonen a dorrir ymaith oddi wrth y dyfroedd sydd yn disgyn oddi uchod: hwy a safant yn bentwr.
Joshua 7:13Cyfod, sancteiddia y bobl, a dywed, Ymsancteiddiwch erbyn y fory: canys fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Dïofryd-beth sydd yn dy blith di, O Israel: ni elli sefyll yn wyneb dy elynion, nes tynnu ymaith y dïofryd-beth o’ch mysg.
Job 1:5A phan ddeuai dyddiau y wledd oddi amgylch, yna Job a anfonai ac a’u sancteiddiai hwynt, ac a gyfodai yn fore, ac a offrymai boethoffrymau yn ôl eu rhifedi hwynt oll: canys dywedodd Job, Fy meibion ond odid a bechasant, ac a felltithiasant DDUW yn eu calonnau. Felly y gwnai Job yr holl ddyddiau hynny.
Psalms 86:10Trugaredd a gwirionedd a ymgyfarfuant; cyfiawnder a heddwch a ymgusanasant.