Llyfr Josua 5:6
Canys deugain mlynedd y rhodiasai meibion Israel yn yr anialwch, nes darfod yr holl bobl o’r rhyfelwyr a ddaethent o’r Aipht, y rhai ni wrandawsent ar lef yr Arglwydd: y rhai y tyngasai yr Arglwydd wrthynt, na ddangosai efe iddynt y wlad a dyngasai yr Arglwydd wrth eu tadau y rhoddai efe i ni; sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 3:17A dywedais, Mi a’ch dygaf chwi i fynu o adfyd yr Aipht, i wlad y Canaaneaid, a’r Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Phereziaid, yr Hefiaid hefyd, a’r Jebusiaid; i wlad yn llifeirio o laeth a mêl.
Numbers 14:29Yn y diffaethwch hwn y cwymp eich celaneddau: a’ch holl rifedigion trwy eich holl rif, o fab ugain mlwydd ac uchod, y rhai a duchanasoch yn fy erbyn,
Numbers 14:35Myfi yr Arglwydd a leferais, dïau y gwnaf hyn i’r holl gynnulleidfa ddrygionus yma, sydd wedi ymgynnull i’m herbyn i: yn y diffaethwch hwn y darfyddant, ac yno y byddant feirw.
Deuteronomy 2:7Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithiodd di yn holl waith dy law: gwybu dy gerdded yn yr anialwch mawr hwn: y deugain mlynedd hyn y bu yr Arglwydd dy Dduw gyd â thi; ni bu arnat eisieu dim.
Deuteronomy 8:4Dy ddillad ni heneiddiodd am danat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn.
Joshua 24:7A phan waeddasant ar yr Arglwydd, efe a osododd dywyllwch rhyngoch chwi a’r Aiphtiaid, ac a ddug y môr arnynt hwy, ac a’u gorchuddiodd: eich llygaid chwi a welsant yr hyn a wneuthum yn yr Aipht: trigasoch hefyd yn yr anialwch ddyddiau lawer.