Llyfr Josua 9:21
A’r tywysogion a ddywedasant wrthynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i’r holl gynnulleidfa,) fel y dywedasai y tywysogion wrthynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 29:11Eich plant, eich gwragedd, a’th dïeithr- ddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll, o gymmynydd dy goed hyd wchynnydd dy ddwfr:
Joshua 9:23Yn awr gan hynny melldigedig ydych: ac ni ddïangc un o honoch rhag bod yn gaeth -weision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy Nuw.
Joshua 10:1Josua yn dychwelyd i Gilgal. A phan glybu Adonisedec brenhin Jerusalem i Josua ennill Ai, a’i difrodi hi, (fel y gwnelsai efe i Jericho ac i’w brenhin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenhin,) a heddychu o drigolion Gibeon âg Israel, a’u bod yn eu mysg hwynt: