The Bible Software
Llyfr Josua · Beibl (1620)

Llyfr Josua 9

1am yr hyn y condemniwyd hwy i gaethiwed tragywyddol. Wedi clywed hyn o’r holl frenhinoedd, y rhai oedd o’r tu yma i’r Iorddonen, yn y mynydd, ac yn y gwastadedd, ac yn holl lannau y môr mawr, at gyfer Libanus; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Phereziaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid;

2Yna hwy a ymgasglasant ynghyd i ymladd yn erbyn Josua, ac yn erbyn Israel, o unfryd.

3¶ A thrigolion Gibeon a glywsant yr hyn a wnaethai Josua i Jericho ac i Ai.

4A hwy a wnaethant yn gyfrwys, ac a aethant, ac a ymddangosasant fel cenhadon: cymmerasant hefyd hen sachlennau ar eu hasynod, a hen gostrelau gwin, wedi eu hollti hefyd, ac wedi eu rhwymo,

5A hen esgidiau baglog am eu traed, a hen ddillad am danynt; a holl fara eu lluniaeth oedd sych a brithlwyd:

6Ac a aethant at Josua i’r gwersyll i Gilgal; a dywedasant wrtho ef, ac wrth wŷr Israel, O wlad bell y daethom: ac yn awr gwnewch gyfammod â ni.

7A gwŷr Israel a ddywedasant wrth yr Hefiaid, Nid hwyrach dy fod yn ein mysg yn trigo; pa fodd gan hynny y gwnaf gyfammod â thi?

8A hwy a ddywedasant wrth Josua, Dy weision di ydym ni. A Josua a ddywedodd wrthynt, Pwy ydych? ac o ba le y daethoch?

9A hwy a ddywedasant wrtho, Dy weision a ddaethant o wlad bell iawn, o herwydd enw yr Arglwydd dy Dduw: canys ni a glywsom ei glod ef, a’r hyn oll a wnaeth efe yn yr Aipht;

10A’r hyn oll a wnaeth efe i ddau frenhin yr Amoriaid, y rhai oedd o’r tu hwnt i’r Iorddonen; i Sehon brenhin Hesbon, ac i Og brenhin Basan, yr hwn oedd yn Astaroth.

11Am hynny ein henuriaid ni, a holl breswylwyr ein gwlad, a lefarasant wrthym ni, gan ddywedyd, Cymmerwch luniaeth gyd â chwi i’r daith, ac ewch i’w cyfarfod hwynt; a dywedwch wrthynt, Eich gweision ydym: yn awr gan hynny gwnewch gyfammod â ni.

12Dyma ein bara ni: yn frwd y cymmerasom ef yn lluniaeth o’n tai y dydd y cychwynasom i ddyfod attoch; ac yn awr, wele, sych a brithlwyd yw.

13Dyma hefyd y costrelau gwin a lanwasom yn newyddion; ac wele hwynt wedi hollti: ein dillad hyn hefyd a’n hesgidiau a heneiddiasant, rhag meithed y daith.

14A’r gwŷr a gymmerasant o’u hymborth hwynt, ac nid ymgynghorasant â genau yr Arglwydd.

15Felly Josua a wnaeth heddwch â hwynt, ac a wnaeth gyfammod â hwynt, ar eu cadw hwynt yn fyw: tywysogion y gynnulleidfa hefyd a dyngasant wrthynt.

16Ond ym mhen y tridiau wedi iddynt wneuthur cyfammod â hwynt, hwy a glywsant mai cymmydogion iddynt oeddynt hwy, ac mai yn eu mysg yr oeddynt yn aros.

17A meibion Israel a gychwynasant, ac a ddaethant i’w dinasoedd hwynt y trydydd dydd: a’u dinasoedd hwynt oedd Gibeon, a Chephirah, Beeroth hefyd, a Chiriath-jearim.

18Ond ni tharawodd meibion Israel mo honynt hwy, oblegid tywysogion y gynnulleidfa a dyngasai wrthynt myn Arglwydd Dduw Israel: a’r holl gynnulleidfa a rwgnachasant yn erbyn y tywysogion.

19A’r holl dywysogion a ddywedasant wrth yr holl gynnulleidfa, Ni a dyngasom wrthynt i Arglwydd Dduw Israel: am hynny ni allwn ni yn awr gyffwrdd â hwynt.

20Hyn a wnawn ni iddynt hwy: Cadwn hwynt yn fyw, fel na byddo digofaint arnom ni, o herwydd y llw a dyngasom wrthynt.

21A’r tywysogion a ddywedasant wrthynt, Byddant fyw, (ond byddant yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i’r holl gynnulleidfa,) fel y dywedasai y tywysogion wrthynt.

22¶ Yna Josua a alwodd arnynt; ac a lefarodd wrthynt, gan ddywedyd, Paham y twyllasoch ni, gan ddywedyd, Pell iawn ydym ni oddi wrthych; a chwithau yn preswylio yn ein mysg ni?

23Yn awr gan hynny melldigedig ydych: ac ni ddïangc un o honoch rhag bod yn gaeth -weision, ac yn torri cynnud, ac yn tynnu dwfr i dŷ fy Nuw.

24A hwy a attebasant Josua, ac a ddywedasant, Yn ddïau gan fynegi y mynegwyd i’th weision, ddarfod i’r Arglwydd dy Dduw orchymyn i Moses ei was roddi i chwi yr holl wlad hon, a difetha holl drigolion y wlad o’ch blaen chwi; am hynny yr ofnasom ni yn ddirfawr rhagoch am ein heinioes, ac y gwnaethom y peth hyn.

25Ac yn awr, wele ni yn dy law di: fel y byddo da ac uniawn yn dy olwg wneuthur i ni, gwna.

26Ac felly y gwnaeth efe iddynt; ac a’u gwaredodd hwynt o law meibion Israel, fel na laddasant hwynt.

27A Josua a’u rhoddodd hwynt y dwthwn hwnnw yn gymmynwyr coed, ac yn wehynwyr dwfr, i’r gynnulleidfa, ac i allor yr Arglwydd, hyd y dydd hwn, yn y lle a ddewisai efe.

← Llyfr Josua 8Read In The App, Free →Llyfr Josua 10 →

Study Llyfr Josua 9

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324