Llyfr Lefiticus 10:9
Gwin a dïod gadarn nac ŷf di, na’th feibion gyd â thi, pan ddeloch i babell y cyfarfod; fel na byddoch feirw. Deddf dragywyddol trwy eich cenhedlaethau fydd hyn:
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8¶ Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Aaron, gan ddywedyd,
10A hynny er gwahanu rhwng cyssegredig a digyssegredig, a rhwng aflan a glân;
Read all of Llyfr Lefiticus 10
Cross References
Exodus 27:21Ym mhabell y cyfarfod, o’r tu allan i’r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a’i feibion hwnnw, o’r hwyr hyd y bore, ger bron yr Arglwydd: deddf dragywyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.
Numbers 6:3Ymneilldued oddi wrth win a dïod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr dïod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytâed rawnwin irion, na sychion.
Proverbs 20:1Gwatwarus yw gwin, a therfysgaidd yw diod gadarn: pwy bynnag a siomir ynddi, nid yw ddoeth.
Isaiah 28:7Ac er hynny hwy a gyfeiliornasant trwy win, ac a amryfusasant trwy ddiod gadarn: yr offeiriad a’r proffwyd a gyfeil¬iornasant trwy ddiod gadarn, difawyd hwy gan win, cyfeiliornasant trwy ddiod gadarn, amryfusasant mewn gweledigaeth, tramgwyddasant mewn barn. º
Ezekiel 44:21Hefyd, nac yfed un offeiriad win, pan ddelont i'r cyntedd nesaf i mewn.
Luke 1:15Canys mawr fydd efe yng ngolwg yr Arglwydd, ac nid yf na gwin na diod gadarn; ac efe a gyflawnir o’r Ysbryd Glân, ie, o groth ei fam.