The Bible Software
Llyfr Lefiticus · Beibl (1620)

Llyfr Lefiticus 11

1Pa ymlusg­iaid sydd aflan. A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd wrthynt,

2Llefarwch wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Dyma yr anifeil­iaid a fwyttêwch, o’r holl anifeil­iaid sydd ar y ddaear.

3Beth bynnag a hollto yr ewin, ac a fforchogo hollt yr ewinedd, ac a gno ei gil, o’r anifeil­iaid; hwnnw a fwyttêwch.

4Ond y rhai hyn ni fwyttêwch; o’r rhai a gnoant eu cil, ac o’r rhai a holltant yr ewin: y camel, er ei fod yn cnoi ei gil, am nad yw yn hollti yr ewin; aflan fydd i chwi.

5A’r gwningen, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi yr ewin; aflan yw i chwi.

6A’r ysgyfarnog, am ei bod yn cnoi ei chil, ac heb fforchogi yr ewin; aflan yw i chwi.

7A’r llwdn hwch, am ei fod yn hollti yr ewin, ac yn fforchogi fforchog­edd yr ewin, a heb gnoi ei gil; aflan yw i chwi.

8Na fwyttêwch o’u cig hwynt, ac na chyffyrdd­wch â’u burgyn hwynt: aflan ydynt i chwi.

9¶ Hyn a fwyttêwch o bob dim a’r sydd yn y dyfroedd: pob peth y mae iddo esgyll a chèn, yn y dyfroedd, yn y moroedd, ac yn yr afonydd; y rhai hynny a fwyttêwch.

10A phob dim nid oes iddo esgyll a chèn, yn y moroedd, ac yn yr afonydd, o bob dim a ymsymmudo yn y dyfroedd, ac o bob peth byw, y rhai fyddant yn y dyfroedd; byddant ffiaidd gennych.

11Byddant ffiaidd gennych: na fwyttêwch o’u cig hwynt, a ffieidd­iwch eu burgyn hwy.

12Yr hyn oll yn y dyfroedd ni byddo esgyll a chèn iddo, ffieidd­beth fydd i chwi.

13¶ A’r rhai hyn a ffieiddiwch chwi o’r adar; na fwyttêwch hwynt, ffieidd-dra ydynt: sef yr eryr, a’r ŵyddwalch, a’r fôr-wennol;

14A’r fwltur, a’r barcud yn ei ryw;

15Pob cigfran yn ei rhyw;

16A chyw yr estrys, a’r fran nos, a’r gog, a’r gwalch yn ei ryw;

17Ac aderyn y cyrph, a’r fulfran, a’r dylluan,

18A’r gogfran, a’r pelican, a’r bïogen,

19A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gorn­chwigl, a’r ystlum.

20Pob ehediad a ymlusgo ac a gerddo ar bedwar troed, ffieidd-dra yw i chwi.

21Ond hyn a fwyttêwch, o bob ehediad a ymlusgo, ac a gerddo ar bedwar troed, yr hwn y byddo coesau iddo oddi ar ei draed, i neidio wrthynt ar hyd y ddaear;

22O’r rhai hynny y rhai hyn a fwyttêwch: y locust yn ei ryw, a’r selam yn ei ryw, a’r hargol yn ei ryw, a’r hagab yn ei ryw.

23A phob ehediad arall a ymlusgo, yr hwn y mae pedwar troed iddo, ffieidd-dra fydd i chwi.

24Ac am y rhai hyn y byddwch aflan: pwy bynnag a gyffyrddo â’u burgyn hwynt, a fydd aflan hyd yr hwyr.

25A phwy bynnag a ddygo ddim o’u burgyn hwynt, golched ei ddillad; ac aflan fydd hyd yr hwyr.

26Am bob anifail fydd yn hollti’r ewin, ac heb ei fforchogi, ac heb gnoi ei gil aflan yw y rhai hynny i chwi; aflan fydd pob un a gyffyrddo â hwynt.

27Pob un hefyd a gerddo ar ei balfau, o bob anifail a gerddo ar bedwar troed, aflan ydynt i chwi: pob un a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan hyd yr hwyr.

28A’r hwn a ddygo eu burgyn hwynt, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr: aflan ydynt i chwi.

29¶ A’r rhai hyn sydd aflan i chwi o’r ymlusgiaid a ymlusgo ar y ddaear: y wengci, a’r llygoden, a’r llyffant yn ei ryw;

30A’r draenog, a’r lysard, a’r ystelio, a’r falwoden, a’r wadd.

31Y rhai hyn ydynt aflan i chwi o bob ymlusgiaid: pob dim a gyffyrddo â hwynt pan fyddant feirw, a fydd aflan hyd yr hwyr.

32A phob dim y cwympo un o honynt arno, wedi marw, a fydd aflan; pob llestr pren, neu wisg, neu groen, neu sach, pob llestr y gwnelir dim gwaith ynddo, rhodder mewn dwfr, a bydded aflan hyd yr hwyr: felly y bydd glân.

33A phob llestr pridd yr hwn y syrthio un o’r rhai hyn i’w fewn, aflan fydd yr hyn oll fydd o’i fewn; a thorrwch yntau.

34Aflan fydd pob bwyd a fwyttêir, o’r hwn y dêl dwfr aflan arno; ac aflan fydd pob dïod a yfir mewn llestr aflan.

35Ac aflan fydd pob dim y cwympo dim o’u burgyn arno; y ffwrn a’r badell a dorrir: aflan ydynt, ac aflan fyddant i chwi.

36Etto glân fydd y ffynnon a’r pydew, lle mae dyfroedd lawer: ond yr hyn a gyffyrddo â’u burgyn, a fydd aflan.

37Ac os syrth dim o’u burgyn hwynt ar ddim had hauedig, yr hwn a heuir; glân yw efe.

38Ond os rhoddir dwfr ar yr had, a syrthio dim o’u burgyn hwynt arno ef aflan fydd efe i chwi.

39Ac os bydd marw un anifail a’r sydd i chwi yn fwyd; yr hwn a gyffyrddo â’i furgyn ef, a fydd aflan hyd yr hwyr.

40A’r hwn a fwytty o’i furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr; a’r hwn a ddygo ei furgyn ef, golched ei ddillad; a bydded aflan hyd yr hwyr.

41A phob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, fydd ffieidd-dra: na fwyttâer ef.

42Pob peth a gerddo ar ei dorr, a phob peth a gerddo ar bedwar troed, a phob peth aml ei draed, o bob ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear, na fwyttêwch hwynt: canys ffieidd-dra ydynt.

43Na wnewch eich eneidiau yn ffiaidd oblegid un ymlusgiad a ymlusgo, ac na fyddwch aflan o’u plegid, fel y byddech aflan o’u herwydd.

44O herwydd myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi: ymsancteiddiwch a byddwch sanctaidd; o herwydd sanctaidd ydwyf fi: ac nac aflanhewch eich eneidiau wrth un ymlusgiad a ymlusgo ar y ddaear.

45Canys myfi yw yr Arglwydd, yr hwn a’ch dug chwi o dir yr Aifft, i fod yn DDUW i chwi: byddwch chwithau sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.

46Dyma gyfraith yr anifeiliaid, a’r ehediaid, a phob peth byw a’r sydd yn ymsymud yn y dyfroedd, ac am bob peth byw a’r sydd yn ymlusgo ar y ddaear,

47I wneuthur gwahan rhwng yr aflan a’r glân, a rhwng yr anifail a fwyttêir a’r hwn nis bwyttêir.

← Llyfr Lefiticus 10Read In The App, Free →Llyfr Lefiticus 12 →

Study Llyfr Lefiticus 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627