Llyfr Lefiticus 4:24
A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poeth-offrwm, ger bron yr Arglwydd. Dyma aberth dros bechod.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
23Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth: dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffeith-gwbl.
Cross References
Exodus 29:38¶ A dyma yr hyn a offrymmi ar yr allor. Dau oen blwyddiaid, bob dydd yn wastadol.
Leviticus 1:5Lladded hefyd yr eidion ger bron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod.
Leviticus 3:2A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch.
Leviticus 3:13A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch.
Leviticus 6:18Pob gwrryw o blant Aaron a fwyttânt hyn: deddf dragywyddol fydd yn eich cenhedlaethau am aberthau tanllyd yr Arglwydd; pob un a gyffyrddo â hwynt, fydd sanctaidd.
Leviticus 6:25Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Dyma gyfraith yr aberth dros bechod. Yn y lle y lleddir y poeth-offrwm, y lleddir yr aberth dros bechod ger bron yr Arglwydd: sancteiddiolaf yw efe.