Yr Efengyl yn ôl Mathew 23:3
Yr hyn oll gan hynny a ddywedant wrthych am eu cadw, cedwch a gwnewch; eithr yn ôl eu gweithredoedd na wnewch: canys dywedant, ac nis gwnânt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Gan ddywedyd, Yng nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a’r Phariseaid.
Read all of Yr Efengyl yn ôl Mathew 23
Cross References
Exodus 18:19Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a’th gynghoraf di, a bydd Duw gyd â thi: Bydd di dros y bobl ger bron Duw, a dwg eu hachosion at Dduw.
Deuteronomy 4:5Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchymynodd yr Arglwydd fy Nuw i mi; i wneuthur o honoch felly, yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu.
Deuteronomy 17:9A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth.
Psalms 50:16Nac ofna pan gyfoethogo un, pan ychwanego gogoniant ei dŷ ef:
Matthew 21:30A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth efe.
Romans 2:19Ac yr wyt yn coelio dy fod yn dywysog i’r deillion, yn llewyrch i’r rhai sydd mewn tywyllwch,