Llyfr Micha 1:13
Preswylferch Lachis, rhwym y cerbyd wrth y buanfarch: dechreuad pechod yw hi i ferch Seion: canys ynot ti y cafwyd anwireddau Israel.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Am hynny y rhoddi anrhegion i Moreseth-gath: tai Achsib a fyddant yn gelwydd i frenhinoedd Israel.
Cross References
Genesis 19:17Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dïangc am dy einioes; nac edrych ar dy ol, ac na saf yn yr holl wastadedd: dïangc i’r mynydd, rhag dy ddifetha.
Joshua 10:3Am hynny Adonisedec brenhin Jerusalem a anfonodd at Hoham brenhin Hebron, ac at Piram brenhin Jarmuth, ac at Japhia brenhin Lachis, ac at Debir brenhin Eglon, gan ddywedyd,
1 Kings 13:33Wedi y peth hyn ni ddychwelodd Jeroboam o’i ffordd ddrygionus; ond efe a wnaeth drachefn o wehilion y bobl offeiriaid i’r uchelfeydd: y neb a fynnai, efe a’i cysegrai ef, ac efe a gai fod yn offeiriad i’r uchelfeydd. º
1 Kings 16:31Canys ysgafn oedd ganddo ef rodio ym mhechodau Jeroboam mab Nebat, ac efe a gymerth yn wraig Jesebel merch Ethbaal brenin y Sidoniaid, ac a aeth ac a wasanaethodd Baal, ac a ymgrymodd iddo. º
2 Kings 16:3Eithr rhodiodd yn ffordd brenhin¬oedd Israel, ac a dynnodd ei fab trwy’r tân, yn ôl ffieidd-dra’r cenhedloedd a fwriasai yr ARGLWYDD allan o flaen meibion Israel. º
2 Kings 18:17A brenin Asyria a anfonodd Tartan, a Rabsaris, a Rabsace, o Lachis, at y brenin Heseceia, a llu dh-fawr yn erbyn Jerwsalem. A hwy a aethant i fyny, ac a ddaethant i Jerwsalem. Ac wedi eu dyfod i fyny, hwy a ddaethant ac a safasant wrth bistyll y llyn uchaf, yr hwn sydd ym mhriffordd maes y pannwr. º