Llyfr y Diarhebion 18:12
Cyn dinistr y balchïa calon gŵr; a chyn anrhydeddy bydd gostyngeiddrwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
Before destruction the heart of man is haughty, and before honour is humility.
In Context
11Cyfoeth y cyfoethog sydd iddo yn ddinas gadarn, ac yn fur uchel, yn ei dyb ei hun.
13Y neb a atebo beth cyn ei glywed, ffolineb a chywilydd fydd iddo.
Read all of Llyfr y Diarhebion 18
Cross References
1 Kings 3:7Ac yn awr, O ARGLWYDD fy Nuw, ti a wnaethost i’th was deyrnasu yn lle Dafydd fy nhad: a minnau yn fachgen bychan: ni fedraf fyned nac allan nac i mewn.
Proverbs 11:2Pan ddêl balchder, fe ddaw gwarth: ond gyda’r gostyngedig y mae doethineb.
Proverbs 16:18Balchder sydd yn myned o flaen dinistr: ac uchder ysbryd o flaen cwymp.
Isaiah 6:5Yna y dywedais, Gwae fi! canys darfu amdanaf; oherwydd gŵr halogedig ei wefusau ydwyf fi, ac ymysg pobl halogedig o wefusau yr ydwyf yn trigo: canys fy llygaid a welsant y brenin, ARGLWYDD y lluoedd.
Ezekiel 28:2Ha fab dyn, dywed wrth dywysog Tyrus, Fel hyn y dywed. yr AKGLWYDII DDUW; Am lalcfaio dy galon, a dywedydi ohonot, Duw ydwyf fi, eistedd yr ydwyf yn eisteddfa Duw yng nghanol y moroedd;. a thi yn ddyn, ac nid yn DDUW, er gosod ohonot dy galon fel calon Duw:
Daniel 5:23Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd, a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di, a thithau a’th dywysogion, dy wragedd a’th ordderchadon, a yfasoch win ynddynt; a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o bres, haearn, pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni wyddant ddim: ac nid anrhydeddaist y DUW y mae dy anadl di yn ei law, a’th holl ffyrdd yn eiddo.