Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 6:22
Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a’ch gwneuthur yn weisiod i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 6
Cross References
Genesis 50:17Fel hyn y dywedwch wrth Joseph; Attolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt, canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, attolwg, gamwedd gweision Duw dy dad. Ac wylodd Joseph pan lefarasant wrtho.
Job 1:8A dywedodd yr ARGLWYDD wrth Satan, A ddeliaist ti ar fy ngwas Job, nad oes gyffelyb iddo ar y ddaear, yn ŵr perffaith ac uniawn, yn ofni Duw, ac yn cilio oddi wrth ddrygioni?
Psalms 86:2Maddeuaist anwiredd dy bobl: cuddiaist eu holl bechod. Sela.
Daniel 3:26Yna y nesaodd Nebuchodonosor at enau y ffwrn o dân poeth, ac a lefarodd ac a ddywedodd, O Sadrach, Mesach, ac Abednego, gwasanaethwyr y Duw goruchaf, deuwch allan, a deuwch yma. Yna Sadrach, Mesach, ac Abednego a ddaethant allan o ganol y tân.
Matthew 13:40Megis gan hynny y cynullir yr efrau, ac a’u llwyr losgir yn tân; felly y bydd yn niwedd y byd hwn