Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 6:23
Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd trag¬wyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
For the wages of sin is death; but the gift of God is eternal life through Jesus Christ our Lord.
In Context
Read all of Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 6
Cross References
Genesis 3:19Trwy chwys dy wyneb y bwyttêi fara, hyd pan ddychwelech i’r ddaear; oblegid o honi y’th gymmerwyd: canys pridd wyt ti, ac i’r pridd y dychweli.
Ezekiel 18:4Wele, yr holl eneidiau eiddof fi ydynt; fel enaid y tad, felly hefyd enaid y mab, eiddof fi ydynt; yr enaid a becho, hwnnw a fydd farw.
Matthew 25:46A’r rhai hyn a ânt i gosbedigaeth dragwyddol: ond y rhai cyfiawn i fywyd tragwyddol.
John 3:36Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol: a’r hwn sydd heb gredu i’r Mab, ni wêl fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno ef.
John 5:24Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Y neb sydd yn gwrando fy ngair i, ac yn credu i’r hwn a’m hanfonodd i, a gaiff fywyd tragwyddol, ac ni ddaw i farn; eithr efe a aeth trwodd o farwolaeth i fywyd.
John 6:27Llafuriwch nid am y bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd tragwyddol, yr hwn a ddyry Mab y dyn i chwi: canys hwn a seliodd Duw Dad.