The Bible Software
Ail Lyfr Samuel · Beibl (1620)

Ail Lyfr Samuel 1

1Ac yr oedd rhyw ŵr o Ramathaim-Soffim, o fynydd Effraim, a’i enw Elcana, mab Jeroham, mab Elihu, mab Tohu, mab Suff, Effratewr:

2A dwy wraig oedd iddo; enw y naill oedd Hanna, ac enw y llall Peninna: ac i Peninna yr ydoedd plant, ond i Hanna nid oedd plant.

3A’r gŵr hwn a ai i fyny o’i ddinas bob blwyddyn i addoli, ac i aberthu i ARGLWYDD y lluoedd, yn Seilo; a dau fab Eli, Hoffni a Phinees, oedd offeiriaid i’r ARGLWYDD yno.

4Bu hefyd, y diwrnod yr aberthodd Elcana, roddi ohono ef i Peninna ei wraig, ac i’w meibion a’i merched oll, rannau.

5Ond i Hanna y rhoddes efe un rhan hardd: canys efe a garai Hanna, ond yr ARGLWYDD a gaeasai ei chroth hi;

6A’i gwrthwynebwraig a’i cyffrôdd hi i’w chythruddo, am i’r ARGLWYDD gau ei bru hi.

7Ac felly y gwnaeth efe bob blwyddyn, pan esgynnai hi i dŷ yr ARGLWYDD, hi a’i cythruddai hi felly, fel yr wylai, ac na fwytai.

8Yna Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Hanna, paham yr wyli? a phaham na fwytei? a phaham y mae yn flin ar dy galon? onid wyf fi well i ti na deg o feibion?

9Felly Hanna a gyfododd, wedi iddynt fwyta ac yfed yn Seilo. (Ac Eli yr offeiriad oedd yn eistedd ar fainc wrth bost teml yr ARGLWYDD.)

10Ac yr oedd hi yn chwerw ei henaid, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD, a chan wylo hi a wylodd.

11Hefyd hi a addunodd adduned, ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, os gan edrych yr edrychi ar gystudd dy lawforwyn, ac a’m cofi i, ac nid anghofi dy lawforwyn, ond rhoddi i’th lawforwyn fab: yna y rhoddaf ef i’r ARGLWYDD holl ddyddiau ei einioes, ac ni ddaw ellyn ar ei ben ef.

12A bu, fel yr oedd hi yn parhau yn gweddïo gerbron yr ARGLWYDD, i Eli ddal sylw ar ei genau hi.

13A Hanna oedd yn llefaru yn ei chalon, yn unig ei gwefusau a symudent, a’i llais ni chlywid: am hynny Eli a dybiodd ei bod hi yn feddw.

14Ac Eli a ddywedodd wrthi hi. Pa hyd y byddi feddw? bwrw ymaith dy win oddi wrthyt.

15A Hanna a atebodd, ac a ddywed¬odd, Nid felly, fy arglwydd; gwraig galed arni ydwyf fi: gwin hefyd na diod gadarn nid yfais, eithr tywelltais fy enaid gerbron yr ARGLWYDD.

16Na chyfrif dy lawforwyn yn ferch Belial: canys o amldra fy myfyrdod, a’m blinder, y lleferais hyd yn hyn.

17Yna yr atebodd Eli, ac a ddywed¬odd, Dos mewn heddwch: a Duw Israel a roddo dy ddymuniad yr hwn a ddymunaist ganddo ef.

18A hi a ddywedodd, Caffed dy law¬forwyn ffafr yn dy olwg. Felly yr aeth y wraig i’w thaith, ac a fwytaodd; ac ni bu athrist mwy.

19A hwy a gyfodasant yn fore, ac a addolasant gerbron yr ARGLWYDD, ac a ddychwelasant, ac a ddaethant i’w tŷ i Rama. Ac Elcana a adnabu Hanna ei wraig; a’r ARGLWYDD a’i cofiodd hi.

20A bu, pan ddaeth yr amser o amgylch, wedi beichiogi o Hanna, esgor ohoni ar fab; a hi a alwodd ei enw ef Samuel: Canys gan yr ARGLWYDD y dymunais ef, eb hi.

21A’r gŵr Elcana a aeth i fyny, a’i holl dylwyth, i offrymu i’r ARGLWYDD yr aberth blynyddol, a’i adduned.

22Ond Hanna nid aeth i fyny: canys hi a ddywedodd wrth ei gŵr, Ni ddeuaf fi, hyd oni ddiddyfner y bachgen: yna y dygaf ef, fel yr ymddangoso efe o flaen yr ARGLWYDD, ac y trigo byth.

23Ac Elcana ei gŵr a ddywedodd wrthi, Gwna yr hyn a welych yn dda: aros hyd oni ddiddyfnych ef; yn unig yr ARGLWYDD a gyflawno ei air. Felly yr arhodd y wraig, ac a fagodd ei mab, nes iddi ei ddiddyfnu ef.

24A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a’i dug ef i fyny gyda hi, â thri o fustych, ac un effa o beilliaid, a chostrelaid o win; a hi a’i dug ef i dŷ yr ARGLWYDD yn Seilo: a’r bachgen yn ieuanc.

25A hwy a laddasant fustach, ac a ddygasant y bachgen at Eli.

26A hi a ddywedodd, O fy arglwydd, fel y mae dy enaid yn fyw, fy arglwydd, myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di, yn gweddïo ar yr ARGLWYDD.

27Am y bachgen hwn y gweddïais; a’r ARGLWYDD a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo:

28Minnau hefyd a’i rhoddais ef i’r ARGLWYDD; yr holl ddyddiau y byddo efe byw, y rhoddwyd ef i’r ARGLWYDD. Ac efe a addolodd yr ARGLWYDD yno.

← Llyfr Cyntaf Samuel 4Read In The App, Free →Ail Lyfr Samuel 2 →

Study Ail Lyfr Samuel 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031