The Bible Software
Llyfr Sechareia · Beibl (1620)

Llyfr Sechareia 3

1Ac efe a ddangosodd i mi Josua yr archoffeiriad yn sefyll gerbron angel yr yr ARGLWYDD, a Satan yn sefyll ar ei ddeheulaw ef i'w wrthwynebu ef.

2A'r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Satan, Cerydded yr ARGLWYDD dydi, Satan; sef yr ARGLWYDD yr hwn a ddewisodd Jerwsalem, a'th geryddo: onid pentewyn yw hwn wedi ei achub o'r tân?

3A Josua ydoedd wedi ei wisgo â dillad budron, ac yn sefyll yng ngw^ydd yr angel.

4Ac efe a atebodd, ac a ddywedodd wrth y rhai oedd yn sefyll ger ei fron, gan ddywedyd, Cymerwch ymaith y dillad budron oddi amdano ef. Wrtho yntau y dywedodd, Wele, symudais dy anwiredd i iddi wrthyt, a gwisgaf di hefyd â newid dillad.

5A dywedais hefyd, Rhoddant feitr teg ar ei ben ef: a rhoddasant feitr teg ar ei ben ef, ac a'i gwisgasant aâ dillad; ac angel yr ARGLWYDD oedd yn sefyll gerllaw.

6Ac angel yr ARGLWYDD a dystiolaethodd wrth Josua, gan ddywedyd,

7Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Os rhodi di yn fy ffyrdd, ac os cedwi fy nghadwraeth, tithau hefyd a ferni fy nhy^, ac a gedwi fy nghynteddoedd; rhoddaf i ti hefyd leoedd i rodio ymysg y rhai hyn sydd yn sefyll yma.

8Gwrando, atolwg, Josua yr archoffeiriad, ti a'th gyfeillion sydd yn eistedd ger dy fron: canys gwy^r rhyfedd yw y rhai hyn: oherwydd wele, dygaf allan fy ngwas Y BLAGURYN.

9Canys wele, y garreg a roddais gerbron Josua; ar un garreg y bydd saith o lygaid: wele fi yn naddu ei naddiad hi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a symudaf ymaith anwiredd y tir hwnnw mewn un diwrnod.

10Y dwthwn hwnnw, medd ARGLWYDD y lluoedd, y gelwch bob un ei gymydog dan y winwydden, a than y ffigysbren.

← Llyfr Sechareia 2Read In The App, Free →Llyfr Sechareia 4 →

Study Llyfr Sechareia 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314