Llyfr Sechareia 8:9
Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Cryfhaer eich dwylo chwi, y rhai ydych yn clywed yn y dyddiau hyn y geiriau hyn o enau y proffwydi, y rhai oedd yn y dydd y sylfaenwyd ty^ ARGLWYDD y lluoedd, fel yr adeiledid y deml.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Joshua 1:8Nac ymadawed llyfr y gyfraith hon o’th enau, eithr myfyria ynddo ddydd a nos; fel y cedwych ar wneuthur yn ol yr hyn oll sydd ysgrifenedig ynddo: canys yna y llwyddi yn dy ffyrdd, ac yna y ffynni.
1 Chronicles 28:20A dywedodd Dafydd wrth Solomon ei fab, Ymgryfhâ, ac ymegnïa, a gweithia; nac ofna, ac na arswyda: canys yr ARGLWYDD DDUW, fy Nuw i, fydd gyd â thi; nid ymedy efe â thi, ac ni’th wrthyd, nes gorphen holl waith gwasanaeth tŷ yr ARGLWYDD. º
Ezra 5:1Yna y proffwydi, Haggai y proffwyd, a Sechareia mab Ido, a broffwydasant i’r Iddewon oedd yn Jwda ac yn Jerwsalem; yn enw Duw Israel y proffwydasant iddynt.
Isaiah 35:3Cadarnhewch y dwylo llesg, a chryfhewch y gliniau gweiniaid. º
Haggai 1:1Yn yr ail flwyddyn i'r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd,
Haggai 2:4Eto yn awr ymgryfha, Sorobabel, medd yr ARGLWYDD, ac ymgryfha, Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ymgryfhewch, holl bobl y tir, medd yr ARGLWYDD, a gweithiwch: canys yr ydwyf fi gyda chwi, medd ARGLWYDD y lluoedd: