The Bible Software
Llyfr Sechareia · Beibl (1620)

Llyfr Sechareia 8

1Drachefn y daeth gair ARGLWYDD y lluoedd ataf, gan ddywedyd,

2Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Eiddigeddais eiddigedd mawr dros Seion ac â llid mawr yr eiddigeddais drosti.

3Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dychwelais at Seion, a thrigaf yng nghanol Jerwsalem; a Jerwsalem a elwir Dinas y gwirionedd; a mynydd ARGLWYDD y lluoedd, Y mynydd sanctaidd.

4Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Hen wy^r a hen wragedd a drigant eto yn heolydd Jerwsalem, a phob gw^r â'i ffon yn ei law oherwydd amlder dyddiau.

5A heolydd y ddinas a lenwir o fechgyn a genethod yn chwarae yn ei heolydd hi.

6Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Os anodd yw hyn yn y dyddiau hyn yng ngolwg gweddill y bobl hyn, ai anodd fyddai hefyd yn fy ngolwg i? medd ARGLWYDD y lluoedd.

7Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Wele fi yn gwaredu fy mhobl o dir y dwyrain, ac o dir machludiad haul.

8A mi a'u dygaf hwynt, fel y preswyliont yng nghanol Jerwsalem: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a byddaf finnau iddynt hwythau yn DDUW mewn gwirionedd ac mewn cyfiawnder.

9Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Cryfhaer eich dwylo chwi, y rhai ydych yn clywed yn y dyddiau hyn y geiriau hyn o enau y proffwydi, y rhai oedd yn y dydd y sylfaenwyd ty^ ARGLWYDD y lluoedd, fel yr adeiledid y deml.

10Canys cyn y dyddiau hyn nid oedd na chyflog i ddyn, na llog am anifail; na heddwch i'r un a elai allan, nac a ddelai i mewn, gan y gorthrymder: oblegid gyrrais yr holl ddynion bob un ym mhen ei gymydog.

11Ond yn awr ni byddaf fi i weddill y bobl hyn megis yn y dyddiau gynt, medd ARGLWYDD y lluoedd.

12Canys bydd yr had yn ffynadwy; y winwydden a rydd ei ffrwyth, a'r ddaear a rydd ei chynnyrch, a'r nefoedd a roddant eu gwlith: a pharaf i weddill y bobl hyn feddiannu yr holl bethau hyn.

13A bydd, mai megis y buoch chwi, ty^ Jwda a thy^ Israel, yn felltith ymysg y cenhedloedd; felly y'ch gwaredaf chwi, a byddwch yn fendith: nac ofnwch, ond cryfhaer eich dwylo.

14Canys fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Fel y meddyliais eich drygu chwi, pan y'm digiodd eich tadau, medd ARGLWYDD y lluoedd, ac nid edifarheais;

15Felly drachefn y meddyliais yn y dyddiau hyn wneuthur lles i Jerwsalem, ac i dy^ Jwda: nac ofnwch.

16Dyma y pethau a wnewch chwi; Dywedwch y gwir bawb wrth ei gymydog; bernwch farn gwirionedd a thangnefedd yn eich pyrth;

17Ac na fwriedwch ddrwg neb i'w gilydd yn eich calonnau; ac na hoffwch lw celwyddog: canys yr holl bethau hyn a gaseais, medd yr ARGLWYDD.

18A gair ARGLWYDD y lluoedd a ddaeth ataf, gan ddywedyd,

19Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ympryd y pedwerydd mis, ac ympryd y pumed, ac ympryd y seithfed, ac ympryd y degfed, a fydd i dy^ Jwda yn llawenydd a hyfrydwch, ac yn uchel wyliau daionus: gan hynny cerwch wirionedd a heddwch.

20Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Bydd eto, y daw pobloedd a phreswylwyr dinasoedd lawer;

21Ac yr â preswylwyr y naill ddinas i’r llall, gan ddywedyd,. Awn gan fyned i weddïo gerbron yr ARGLWYDD, ac i geisio ARGLWYDD y lluoedd: minnau a af hefyd.

22Ie, pobloedd lawer a chenhedloedd cryfion a ddeuant i geisio ARGLWYDD y lluoedd yn Jerwsalem, ac i weddïo gerbron yr ARGLWYDD.

23Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Yn y dyddiau hynny y bydd i ddeg o ddynion, o bob tafodiaith y cenhedloedd, ymaflyd, ymaflyd, meddaf, yng ngodre gw^r o Iddew, gan ddywedyd, Awn gyda chwi: canys clywsom DUW gyda chwi.

← Llyfr Sechareia 7Read In The App, Free →Llyfr Sechareia 9 →

Study Llyfr Sechareia 8

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314