The Bible Software
1 Corinthians · Beibl (1620)

1 Corinthians 3

1A myfi, frodyr, ni allwn lefaru wrthych megis wrth rai ysbrydol, ond megis rhai cnawdol, megis wrth rai bach yng Nghrist.

2Mi a roddais i chwi laeth i’w yfed, ac nid bwyd: canys hyd yn hyn nis gallech, ac nis gellwch chwaith eto yr awron, ei dderbyn.

3Canys cnawdol ydych chwi eto: canys tra fyddo yn eich plith chwi genfigen, a chynnen, ac ymbleidio; onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio yn ddynol?

4Canys tra dywedo un, Myfi ydwyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apolos; onid ydych chwi yn gnawdol?

5Pwy gan hynny yw Paul, a phwy Apolos, ond gweinidogion trwy y rhai y credasoch chwi, ac fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un?

6Myfi a blennais, Apolos a ddyfrhaodd; ond Duw a roddes y cynnydd.

7Felly nid yw’r hwn sydd yn plannu ddim, na’r hwn sydd yn dyfrhau; ond Duw, yr hwn sydd yn rhoi’r cynnydd.

8Eithr yr hwn sydd yn plannu, a’r hwn sydd yn dyfrhau, un ydynt: a phob un a dderbyn ei briod wobr ei hun, yn ôl ei lafur ei hun.

9Canys cydweithwyr Duw ydym ni: llafurwaith Duw, adeiladaeth Duw, ydych chwi.

10Yn ôl y gras Duw a roddwyd i mi, megis pensaer celfydd, myfi a osodais y sylfaen, ac y mae arall yn goruwch adeiladu. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn goruwch adeiladu.

11Canys sylfaen arall nis gall neb ei osod, heblaw’r un a osodwyd, yr hwn yw Iesu Grist.

12Eithr os goruwch adeilada neb ar y sylfaen hwn, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl;

13Gwaith pob dyn a wneir yn amlwg: canys y dydd a’i dengys, oblegid trwy dân y datguddir ef; a’r tân a brawf waith pawb, pa fath ydyw.

14Os gwaith neb a erys, yr hwn a oruwch adeiladodd ef, efe a dderbyn wobr.

15Os gwaith neb a losgir, efe a gaiff golled: eithr efe ei hun a fydd cadwedig; eto felly, megis trwy dân.

16Oni wyddoch chwi mai teml Dduw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch?

17Os llygra neb deml Dduw, Duw a lygra hwnnw: canys sanctaidd yw teml Duw, yr hon ydych chwi.

18Na thwylled neb ei hunan. Od oes neb yn eich mysg yn tybied ei fod ei hun yn ddoeth yn y byd hwn, bydded ffôl, fel y byddo doeth.

19Canys doethineb y byd hwn sydd ffolineb gyda Duw: oherwydd ysgrifenedig yw, Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwystra.

20A thrachefn, Y mae yr Arglwydd yn gwybod meddyliau y doethion, mai ofer ydynt.

21Am hynny na orfoledded neb mewn dynion: canys pob peth sydd eiddoch chwi:

22Pa un bynnag ai Paul, ai Apolos, ai Ceffas, ai’r byd, ai bywyd, ai angau,. ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod; y mae pob peth yn eiddoch chwi;

23A chwith yn eiddo Crist; a Christ yn eiddo Duw.

← 1 Corinthians 2Read In The App, Free →1 Corinthians 4 →

Study 1 Corinthians 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Robertson's Word PicturesReina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516