The Bible Software
1 Corinthians · Beibl (1620)

1 Corinthians 6

1A feiddia neb ohonoch, a chanddo fater yn erbyn arall, ymgyfreithio o flaen y rhai anghyfiawn, ac nid o flaen y saint?

2Oni wyddoch chwi y barna’r saint y byd? ac os trwoch chwi y bernir y byd, a ydych chwi yn anaddas i farnu’r pethau lleiaf?

3Oni wyddoch chwi y barnwn ni angylion? pa faint mwy y pethau a berthyn i’r bywyd hwn?

4Gan hynny, od oes gennych farnedigaethau am bethau a berthyn i’r bywyd hwn, dodwch ar y fainc y rhai gwaelaf yn yr eglwys.:

5Er cywilydd i chwi yr ydwyf yn dywedyd. Felly, onid oes yn eich plith gymaint ag un doeth, yr hwn a fedro farnu rhwng ei frodyr?

6Ond bod brawd yn ymgyfreithio brawd, a hynny gerbron y rhai di-gred?

7Yr awron gan hynny y mae yn hollol ddiffyg yn eich plith, am eich bod yn ymgyfreithio â’ch gilydd. Paham nad ydych yn hytrach yn dioddef cam? paham nad ydych yn hytrach mewn colled?

8Eithr chwychwi sydd yn gwneuthur cam, a cholled, a hynny i’r brodyr.

9Oni wyddoch chwi na chaiff y rhai anghyfiawn etifeddu teyrnas Dduw? Na thwyller chwi: ni chaiff na godin¬ebwyr, nac eilunaddolwyr, na thorwyr priodas, na masweddwyr, na gwrywgydwyr,

10Na lladron, na chybyddion, na meddwon, na difenwyr, na chribddeilwyr, etifeddu teyrnas Dduw.

11A hyn fu rai ohonoch chwi: eithr chwi a olchwyd, eithr chwi a sancteiddiwyd, eithr chwi a gyfiawnhawyd, yn enw yr Arglwydd Iesu, a thrwy Ysbryd ein Duw ni.

12Pob peth sydd gyfreithlon i mi, ond nid yw pob peth yn llesáu; pob peth sydd gyfreithlon i mi, eithr ni’m dygir i dan awdurdod gan ddim.

13Y bwydydd i’r bol, a’r bol i’r bwydydd: eithr Duw a ddinistria hwn a hwythau. A’r corff nid yw i odineb, ond i’r Arglwydd; a’r Arglwydd i’r corff.

14Eithr Duw a gyfododd yr Arglwydd, ac a’n cyfyd ninnau trwy ei nerth ef.:

15Oni wyddoch chwi fod eich cyrff yn aelodau i Grist? gan hynny a gymeraf fi aelodau Crist, a’u gwneuthur yn ael¬odau putain? Na ato Duw.

16Oni wyddoch chwi fod yr hwn sydd yn cydio â phutain, yn un corff? canys y ddau (medd efe) fyddant un cnawd.

17Ond yr hwn a gysylltir â’r Arglwydd, un ysbryd yw.

18Gochelwch odineb. Pob pechod a wnelo dyn, oddi allan i’w gorff y mae; ond yr hwn sydd yn godinebu, sydd yn pechu yn erbyn ei gorff ei hun.

19Oni wyddoch chwi fod eich corff yn deml i’r Ysbryd Glân sydd ynoch, yr hwn yr ydych yn ei gael gan Dduw, ac nad ydych yn eiddoch eich hunain?

20Canys er gwerth y prynwyd chwi: gan hynny gogoneddwch Dduw yn eich corff, ac yn eich ysbryd, y rhai sydd eiddo Duw.

← 1 Corinthians 5Read In The App, Free →1 Corinthians 7 →

Study 1 Corinthians 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Robertson's Word PicturesReina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516