2 Chronicles 23:13
A hi a edrychodd, ac wele y brenin yn sefyll wrth ei golofn yn y ddyfodfa, a’r tywysogion a’r utgyrn yn ymyl y brenin, a holl bobl y wlad yn llawen, ac yn lleisio mewn utgyrn; a’r cantorion ag offer cerdd, a’r rhai a fedrent foliannu. Yna Athaleia a rwygodd ei dillad, ac a ddywedodd, Bradwriaeth, bradwriaeth!
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Judges 7:8Felly y bobl a gymerasant fwyd yn eu dwylo, a’u hutgym; a Gedeon a ollyngodd ymaith holl wŷr Israel., pob un i’w babell, a’r tri channwr a ataliodd efe: a gwersyll y Midianiaid oedd oddi tanodd iddo yn y dyffryn.
1 Kings 1:39A Sadoc yr offeiriad a gymerodd gorn o olew allan o’r babell, ac a eneiniodd Solomon. A hwy a utganasant mewn utgorn: a’r holl bobl a ddywedasant, Bydded fyw y brenin Solomon.
2 Kings 9:13A hwy a frysiasant, ac a gymerasant bob un ei wisg, ac a’i gosodasant dano ef ar ben uchaf y grisiau, ac a ganasant mewn utgom, ac a ddywedasant, Jehu sydd frenin. º
2 Kings 23:3Sl A’r brenin a safodd wrth y golofn, ac a wnaeth gyfamod gerbron yr AR¬GLWYDD, ar fyned ar ôl yr ARGLWYDD, ac ar gadw ei orchmynion ef, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, a’i holl galon, ac a’i holl enaid, i gyflawni geiriau y cyfamod hwn, y rhai oedd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. A’r holl bobl a safodd wrth y cyfamod. º
1 Chronicles 15:16A Dafydd a ddywedodd wrth dywysogion y Lefiaid, ar iddynt osod eu brodyr y cerddorion i leisio ag offer cerdd, nablau, a thelynau, a symbalau, yn lleisio gan ddyrchafu llef mewn gorfoledd. º
1 Chronicles 15:27A Dafydd oedd wedi ymwisgo mewn gwisg o liain main; a’r holl Lefiaid, y rhai oedd yn dwyn yr arch, a’r cantorion, Chenaneia hefyd meistr y gan, a’r cerddorion. Ac am Dafydd yr oedd effod liain. º