Llyfr Deuteronomium 21:23
Na thriged ei gelain dros nos wrth y pren, ond gan gladdu ti a’i cleddi ef o fewn y dydd hwnnw; o herwydd melldith Dduw sydd i’r hwn a grogir: ac na haloga dy dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 21
Cross References
Numbers 25:4A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymmer holl bennaethiaid y bobl, a chrog hwynt i’r Arglwydd ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llid digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel.
Numbers 35:34Am hynny nac aflanhâ y tir y trigoch ynddo, yr hwn yr ydwyf fi yn preswylio yn ei ganol: canys myfi yr Arglwydd ydwyf yn preswylio y’nghanol meibion Israel.
Deuteronomy 7:26Na ddwg dithau ffieidd-dra i’th dŷ, fel y byddech ysgymmunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef; oblegid ysgymmunbeth yw efe.
Joshua 7:12Am hynny ni ddichon meibion Israel sefyll yn wyneb eu gelynion, eithr troant eu gwarr o flaen eu gelynion; am eu bod yn ysgymmunbeth: ni byddaf mwyach gyd â chwi, oni ddifethwch yr ysgymmunbeth o’ch mysg.
Joshua 10:26Ac wedi hyn Josua a’u tarawodd hwynt, ac a’u rhoddodd i farwolaeth, ac a’u crogodd hwynt ar bùm pren: a buant y’nghrog ar y prennau hyd yr hwyr.
2 Samuel 21:6Rhodder i ni saith o wŷr o’i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i’r ARGLWYDD yn Gibea Saul, dewisedig yr ARGLWYDD. A dywedodd y brenin, Myfi a’u rhoddaf. º