Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 21:6
Rhodder i ni saith o wŷr o’i feibion ef, fel y crogom ni hwynt i’r ARGLWYDD yn Gibea Saul, dewisedig yr ARGLWYDD. A dywedodd y brenin, Myfi a’u rhoddaf. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Cyntaf y Brenhinoedd 21
Cross References
Genesis 40:19O fewn tri diwrnod etto y cymmer Pharaoh dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwyttânt dy gnawd di oddi am danat.
Numbers 25:4A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cymmer holl bennaethiaid y bobl, a chrog hwynt i’r Arglwydd ar gyfer yr haul; fel y dychwelo llid digofaint yr Arglwydd oddi wrth Israel.
Joshua 8:29Ac efe a grogodd frenhin Ai ar bren hyd yr hwyr: ac wedi machlud haul, y gorchymynodd Josua iddynt ddisgyn ei gelain ef oddi ar y pren, a’i bwrw i ddrws porth y ddinas; a gosodasant garnedd fawr o gerrig arni hyd y dydd hwn.
1 Samuel 9:16Ynghylch y pryd hwn yfory yr anfonaf atat ti ŵr o wlad Benjamin; a thi a’i heneini ef yn flaenor ar fy mhobl Israel, ac efe a wared fy mhobl o law y Philistiaid: canys edrychais ar fy mhobl; oherwydd daeth eu gwaedd ataf. º
1 Samuel 10:24A dywedodd Samuel wrth yr holl bobl. A welwch chwi yr hwn a ddewisodd yr ARGLWYDD, nad oes neb tebyg iddo ymysg yr holl bobl? A’r holl bobl a floeddiasant, ac a ddywedasant, Byw fyddo’r brenin º
1 Samuel 11:4A’r cenhadau a ddaethant i Gibea Saul, ac a adroddasant y geiriau lle y clybu y bobl. A’r holl bobl a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant. º