The Bible Software
Llyfr Deuteronomium · Beibl (1620)

Llyfr Deuteronomium 21

1Na adawer drwg-weithredwr y’nghrog dros nos. Os ceir un wedi ei ladd o fewn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w etifeddu, yn gorwedd yn y maes, heb wybod pwy a’i lladdodd;

2Yna aed dy henuriaid a’th farnwyr allan, a mesurant hyd y dinasoedd sydd o amgylch i’r lladdedig.

3A bydded i’r ddinas nesaf at y lladdedig, sef henuriaid y ddinas honno, gymmeryd anner o’r gwartheg, yr hon ni weithiwyd â hi, ac ni thynnodd dan iau.

4A dyged henuriaid y ddinas honno yr anner i ddyffryn garw, yr hwn ni lafuriwyd, ac ni hauwyd ynddo; ac yno torfynyglant yr anner yn y dyffryn.

5A nesâed yr offeiriaid, meibion Lefi, (o herwydd yr Arglwydd dy Dduw a’u hetholodd hwynt i weini iddo ef, ac i fendigo yn enw yr Arglwydd,) ac wrth eu barn hwynt y terfynir pob ymryson a phob pla.

6A holl henuriaid y ddinas honno, y rhai a fyddo nesaf at y lladdedig, a olchant eu dwylaw uwch ben yr anner a dorfynyglwyd yn y dyffryn.

7A hwy a attebant ac a ddywedant, Ni thywalltodd ein dwylaw ni y gwaed hwn, at nis gwelodd ein llygaid.

8Trugarhâ wrth dy bobl Israel, y rhai a waredaist, O Arglwydd, ac na ddyro waed gwirion yn erbyn dy bobl Israel. A maddeuir y gwaed iddynt hwy.

9Felly y tynni ymaith affaith y gwaed gwirion o’th fysg, os ti a wnei yr uniawander y’ngolwg yr Arglwydd.

10¶ Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt yn dy law di, a chaethgludo o honot gaethglud o honynt;

11A gweled o honot yn y gaethglud wraig brydweddol, a’i bod wrth dy fodd, i’w chymmeryd i ti yn wraig;

12Yna dwg hi i fewn dy dŷ, ac eillied hi ei phen, a thorred ei hewinedd;

13A dïosged ddillad ei chaethiwed oddi am dani, a thriged yn dy dŷ di, ac wyled am ei thad a’i mam fis o ddyddiau: ac wedi hynny yr âi di atti, ac y byddi wr iddi, a hithau fydd wraig i ti.

14Ac oni bydd hi wrth dy fodd; yna gollwng hi yn ol ei hewyllys ei hun, a chan werthu na werth hi er arian; na chais elw o honi, am i ti ei darostwng hi.

15¶ Pan fyddo i wr ddwy wragedd, un yn gu, ac un yn gas; a phlanta o’r gu a’r gas feibion iddo ef, a bod y mab cyntaf-anedig o’r un gas:

16Yna bydded, yn y dydd y rhanno efe ei etifeddiaeth rhwng ei feibion y rhai fyddant iddo, na ddichon efe wneuthur yn gyntaf-anedig fab y gu o flaen mab y gas, yr hwn sydd gyntaf-anedig;

17Ond mab y gas yr hwn sydd gyntaf-anedig a gydnebydd efe, gan roddi iddo ef y ddeuparth o’r hyn oll a gaffer yn eiddo ef: o achos hwn yw dechreuad ei nerth ef; iddo y bydd braint y cyntaf-anedig.

18¶ Ond o bydd i wr fab cyndyn ac anufudd, heb wrandaw ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, in wrendy arnynt:

19Yna ei dad a’i fam a ymaflant ynddo, ac a’i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan;

20A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrandaw ar ein llais; glwth a meddwyn yw efe.

21Yna holl ddynion ei ddinas a’i llabyddiant ef â meini, fel y byddo farw: felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg; a holl Israel a glywant, ac a ofnant.

22¶ Ac o bydd mewn gwr bechod yn haeddu barnedigaeth angau, a’i farwolaethu, a chrogi o honot ef wrth bren;

23Na thriged ei gelain dros nos wrth y pren, ond gan gladdu ti a’i cleddi ef o fewn y dydd hwnnw; o herwydd melldith Dduw sydd i’r hwn a grogir: ac na haloga dy dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth.

← Llyfr Deuteronomium 20Read In The App, Free →Llyfr Deuteronomium 22 →

Study Llyfr Deuteronomium 21

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728293031323334