Llyfr Deuteronomium 4:13
Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfammod a orchymynodd efe i chwi i’w wneuthur, sef y Dengair; ac a’u hysgrifenodd hwynt ar ddwy lech faen.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 4
Cross References
Exodus 24:12¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Tyred i fynu attaf i’r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchymynion, y rhai a ysgrifenais, i’w dysgu hwynt.
Exodus 31:18¶ Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orphen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifenu â bys Duw.
Deuteronomy 5:1Moses, ar ddeisyfiad y bobl, yn derbyn y gyfraith gan Dduw. A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddyw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a’u cadw, a’u gwneuthur.
Deuteronomy 5:22¶ Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynnulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmmwl, a’r tywyllwch, â llais uchel; ac ni chwanegodd ddim; ond ysgrifenodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a’u rhoddes attaf fi.
Deuteronomy 9:10A rhoddes yr Arglwydd attaf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifenu â bys Duw; ac arnynt yr oedd yn ol yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymmanfa.
1 Kings 8:9Nid oedd dim yn yr arch ond y ddwy lech faen a osodasai Moses yno yn Horeb, lle y cyfamododd yr ARGLWYDD a meibion Israel, pan oeddynt yn dyfod o wlad yr Aifft. º