Llyfr Deuteronomium 7:2
A rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt o’th flaen di, a tharo o honot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfammod â hwynt, ac na thrugarhâ wrthynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Llyfr Deuteronomium 7
Cross References
Exodus 22:20¶ Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i’r Arglwydd yn unig.
Exodus 34:12A chadw arnat, rhag gwneuthur cyfammod â phreswylwyr y wlad yr wyt yn myned iddi; rhag eu bod yn fagl yn dy blith.
Numbers 21:2Ac addunodd Israel adduned i’r Arglwydd, ac a ddywedodd, Os gan roi y rhoddi y bobl yma yn fy llaw, yna mi a ddifrodaf eu dinasoedd hwynt.
Deuteronomy 3:3Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenhin Basan, a’i holl bobl; ac ni a’i tarawsom ef, hyd na adawyd iddo un y’ngweddill:
Deuteronomy 9:3Gwybydd gan hynny heddyw, fod yr Arglwydd dy Dduw yn myned trosodd o’th flaen di yn dân ysol: efe a’u difetha hwynt, ac efe a’u darostwng hwynt o’th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr Arglwydd wrthyt.
Deuteronomy 13:9Ond gan ladd lladd ef; bydded dy law di arno ef yn gyntaf, i’w roddi i farwolaeth, a llaw yr holl bobl wedi hynny.