The Bible Software
Llyfr y Pregethwr · Beibl (1620)

Llyfr y Pregethwr 11

1Bwrw dy fara ar wyneb y dyfroedd; canys ti a’i cei ar ôl llawer o ddyddiau.

2Dyro ran i saith, a hefyd i wyth: canys ni wyddost pa ddrwg a ddigwydd ar y ddaear.

3Os bydd y cymylau yn llawn glaw, hwy a ddefnynnant ar y ddaear: ac os tua’r deau neu tua’r gogledd y syrth y pren; lle y syrthio y pren, yno y bydd efe.

4Y neb a ddalio ar y gwynt, ni heua; a’r neb a edrycho ar y cymylau, ni feda.

5Megis na wyddost ffordd yr ysbryd, na pha fodd y ffurfheir yr esgyrn yng nghroth y feichiog; felly ni wyddost waith Duw, yr hwn sydd yn gwneuthur y cwbl.

6Y bore heua dy had, a phrynhawn nac atal dy law: canys ni wyddost pa un a ffynna, ai hyn yma ai hyn acw, ai ynteu da fyddant ill dau yn yr un ffunud.

7Melys yn ddiau yw y goleuni, a hyfryd yw i’r llygaid weled yr haul.

8Ond pe byddai dyn fyw lawer o flynyddoedd, a bod yn llawen ynddynt oll; eto cofied ddyddiau tywyllwch; canys llawer fyddant. Beth bynnag a ddigwydda, oferedd yw.

9Gwna yn llawen, ŵr ieuanc, yn dy ieuenctid, a llawenyched dy galon yn nyddiau dy ieuenctid, a rhodia yn ffyrdd dy galon, ac yng ngolwg dy lygaid: ond gwybydd y geilw Duw di i’r farn am hyn oll.

10Am hynny bwrw ddig oddi wrth dy galon, a thro ymaith ddrwg oddi wrth dy gnawd: canys gwagedd yw mebyd ac ieuenctid.

← Llyfr y Pregethwr 10Read In The App, Free →Llyfr y Pregethwr 12 →

Study Llyfr y Pregethwr 11

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112