The Bible Software
Llyfr y Pregethwr · Beibl (1620)

Llyfr y Pregethwr 12

1Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn dyfod y dyddiau blin, a nesáu o’r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt:

2Cyn tywyllu yr haul, a’r goleuni, a’r lleuad, a’r sêr, a dychwelyd y cymylau ar ôl y glaw:

3Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ, ac y cryma y gwŷr cryfion, ac y metha y rhai sydd yn malu, am eu bod yn ychydig, ac y tywylla y rhai sydd yn edrych trwy ffenestri;

4A chau y pyrth yn yr heolydd, pan fo isel sŵn y malu, a’i gyfodi wrth lais yr aderyn, a gostwng i lawr holl ferched cerdd:

5Ie, yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua y pren almon, ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich, ac y palla chwant: pan elo dyn i dŷ ei hir gartref, a’r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol:

6Cyn torri y llinyn arian, a chyn torri y cawg aur, a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon, neu dorri yr olwyn wrth y pydew.

7Yna y dychwel y pridd i’r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at DDUW, yr hwn a’i rhoes ef.

8Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr; gwagedd yw y cwbl.

9A hefyd, am fod y Pregethwr yn ddoeth, efe a ddysgodd eto wybodaeth i’r bobl; ie, efe a ystyriodd, ac a chwiliodd allan, ac a drefnodd ddiarhebion lawer.

10Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy; a’r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn, sef geiriau gwirionedd.

11Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa, y rhai a roddir oddi wrth un bugail.

12Ymhellach hefyd, fy mab, cymer rybudd wrth y rhai hyn, nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllen llawer sydd flinder i’r cnawd.

13Swm y cwbl a glybuwyd yw, Ofna DDUW, a chadw ei orchmynion: canys hyn yw holl ddyled dyn.

14Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drwg.

← Llyfr y Pregethwr 11Read In The App, Free →Song of Solomon 1 →

Study Llyfr y Pregethwr 12

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112