The Bible Software
Llythyr Paul at yr Effesiaid · Beibl (1620)

Llythyr Paul at yr Effesiaid 3

1Er mwyn hyn, myfi Paul, carcharor Iesu Grist trosoch chwi'r Cenhedloedd;

2Os clywsoch am oruchwyliaeth gras Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi:

3Mai trwy ddatguddiad yr hysbysodd efe i mi y dirgelwch, (megis yr ysgrifennais o'r blaen ar ychydig eiriau,

4Wrth yr hyn y gellwch, pan ddarllenoch, wybod fy neall i yn nirgelwch Crist,)

5Yr hwn yn oesoedd eraill nid eglurwyd i feibion dynion, fel y mae yr awron wedi ei ddatguddio i'w sanctaidd apostolion a'i broffwydi trwy'r Ysbryd;

6Y byddai'r Cenhedloedd yn gyd-etifeddion, ac yn gyd-gorff, ac yn gyd-gyfranogion o'i addewid ef yng Nghrist, trwy'r efengyl:

7I'r hon y'm gwnaed i yn weinidog, yn ôl rhodd gras Duw yr hwn a roddwyd i mi, yn ôl grymus weithrediad ei allu ef.

8I mi, y llai na'r lleiaf o'r holl saint, y rhoddwyd y gras hwn, i efengylu ymysg y Cenhedloedd anchwiliadwy olud Crist;

9Ac i egluro i bawb beth yw cymdeithas y dirgelwch, yr hwn oedd guddiedig o ddechreuad y byd yn Nuw, yr hwn a greodd bob peth trwy Iesu Grist:

10Fel y byddai yr awron yn hysbys i'r tywysogaethau ac i'r awdurdodau yn y nefolion leoedd, trwy'r eglwys, fawr amryw ddoethineb Duw,

11Yn ôl yr arfaeth dragwyddol yr hon a wnaeth efe yng Nghrist Iesu ein Harglwydd ni:

12Yn yr hwn y mae i ni hyfdra, a dyfodfa mewn hyder, trwy ei ffydd ef.

13Oherwydd paham yr wyf yn dymuno na lwfrhaoch oblegid fy mlinderau i drosoch, yr hyn yw eich gogoniant chwi.

14Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist,

15O'r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear,

16Ar roddi ohono ef i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn y dyn oddi mewn;

17Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi,

18Fel y galloch, wedi eich gwreiddio a'ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda'r holl saint, beth yw'r lled, a'r hyd, a'r dyfnder, a'r uchder;

19A gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y'ch cyflawner a holl gyflawnder Duw.

20Ond i'r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni,

21Iddo ef y byddo'r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.

← Llythyr Paul at yr Effesiaid 2Read In The App, Free →Llythyr Paul at yr Effesiaid 4 →

Study Llythyr Paul at yr Effesiaid 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456