The Bible Software
Llythyr Paul at yr Effesiaid · Beibl (1620)

Llythyr Paul at yr Effesiaid 6

1Y plant, ufuddhewch i'ch rhieni yn yr Arglwydd: canys hyn sydd gyfiawn.

2Anrhydedda dy dad a'th fam, (yr hwn yw'r gorchymyn cyntaf mewn addewid,)

3Fel y byddo yn dda i ti, ac fel y byddech hir-hoedlog ar y ddaear.

4A chwithau dadau, na yrrwch eich plant i ddigio; ond maethwch hwynt yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd.

5Y gweision, ufuddhewch i'r rhai sydd arglwyddi i chwi yn ôl y cnawd, gydag ofn a dychryn, yn symlrwydd eich calon, megis i Grist;

6Nid a golwg-wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, ond fel gweision Crist, yn gwneuthur ewyllys Duw o'r galon;

7Trwy ewyllys da yn gwneuthur gwasanaeth, megis i'r Arglwydd, ac nid i ddynion:

8Gan wybod mai pa ddaioni bynnag a wnelo pob un, hynny a dderbyn efe gan yr Arglwydd, pa un bynnag ai caeth ai rhydd fyddo.

9A chwithau feistriaid, gwnewch yr un pethau tuag atynt hwy, gan roddi bygwth heibio: gan wybod fod eich Arglwydd chwi a hwythau yn y nefoedd; ac nid oes derbyn wyneb gydag ef.

10Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef.

11Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol.

12Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd.

13Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll.

14Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder;

15A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd:

16Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, a'r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall.

17Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw:

18Gan weddio bob amser a phob rhyw weddi â deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy hob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint,

19A throsof finnau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau yn hy, i hysbysu dirgelwch yr efengyl;

20Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hy amdani, fel y perthyn imi draethu.

21Ond fel y gwypoch chwithau hefyd fy helynt, beth yr wyf yn ei wneuthur, Tychicus, y brawd annwyl a'r gweinidog ffyddlon yn yr Arglwydd, a hysbysa i chwi bob peth:

22Yr hwn a anfonais atoch er mwyn hyn yma; fel y caech wybod ein helynt ni, ac fel y diddanai efe eich calonnau chwi.

23Tangnefedd i'r brodyr, a chariad gyda ffydd, oddi wrth Dduw Dad, a'r Arglwydd Iesu Grist.

24Gras fyddo gyda phawb sydd yn caru ein Harglwydd Iesu Grist mewn purdeb. Amen. At yr Effesiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus.

← Llythyr Paul at yr Effesiaid 5Read In The App, Free →Philippians 1 →

Study Llythyr Paul at yr Effesiaid 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Robertson's Word PicturesReina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456