The Bible Software
Llythyr Paul at yr Effesiaid · Beibl (1620)

Llythyr Paul at yr Effesiaid 2

1A chwithau a fywhaodd efe, pan oeddech feirw mewn camweddau a phechodau;

2Yn y rhai y rhodiasoch gynt yn ôl helynt y byd hwn, yn ôl tywysog llywodraeth yr awyr, yr ysbryd sydd yr awron yn gweithio ym mhlant anufudd-dod,

3Ymysg y rhai hefyd y bu ein hymarweddiad ni oll gynt, yn chwantau ein cnawd, gan wneuthur ewyllysiau y cnawd a'r meddyliau; ac yr oeddem ni wrth naturiaeth yn blant digofaint, megis eraill.

4Eithr Duw, yr hwn sydd gyfoethog o drugaredd, oherwydd ei fawr gariad trwy yr hwn y carodd efe ni,

5Ie, pan oeddem feirw mewn camweddau, a'n cydfywhaodd ni gyda Christ, (trwy ras yr ydych yn gadwedig;)

6Ac a'n cydgyfododd, ac a'n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd yng Nghrist Iesu:

7Fel y gallai ddangos yn yr oesoedd a ddeuai, ragorol olud ei ras ef, trwy ei gymwynasgarwch i ni yng Nghrist Iesu.

8Canys trwy ras yr ydych yn gadwedig, trwy ffydd; a hynny nid ohonoch eich iunain: rhodd Duw ydyw:

9Nid o weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb.

10Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yng Nghrist Iesu i weithredoedd da, y rhai a ragddarparodd Duw, fel y rhodiem ni ynddynt.

11Am hynny cofiwch, a chwi gynt yn Genhedloedd yn y cnawd, y rhai a elwid yn ddienwaediad, gan yr hyn a elwir enwaediad o waith llaw yn y cnawd;

12Eich bod chwi y pryd hwnnw heb Grist, wedi eich dieithrio oddi wrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddi wrth amodau'r addewid, heb obaith gennych, ac heb Dduw yn y byd:

13Eithr yr awron yng Nghrist Iesu, chwychwi, y rhai oeddech gynt ymhell, a wnaethpwyd yn agos trwy waed Crist.

14Canys efe yw ein tangnefedd ni, yr hwn a wnaeth y ddau yn un, ac a ddatododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni:

15Ac a ddirymodd trwy ei gnawd ei hun y gelyniaeth, sef deddf y gorchmynion mewn ordeiniadau, fel y creai'r ddau ynddo'i hun yn un dyn newydd, gan wneuthur heddwch;

16Ac fel y cymodai'r ddau â Duw yn un corff trwy'r groes, wedi lladd y gelyniaeth trwyddi hi.

17Ac efe a ddaeth, ac a bregethodd dangnefedd i chwi'r rhai pell, ac i'r rhai agos.

18Oblegid trwyddo ef y mae i ni ein dau ddyfodfa mewn un Ysbryd at y Tad.

19Weithian gan hynny nid ydych chwi mwyach yn ddieithriaid a dyfodiaid, ond yn gyd-ddinasyddion â'r saint, ac yn deulu Duw;

20Wedi eich goruwchadeiladu ar sail yr apostolion a'r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn benconglfaen;

21Yn yr hwn y mae'r holl adeilad wedi ei chymwys gydgysylitu, yn cynyddu'n deml sanctaidd yn yr Arglwydd:

22Yn yr hwn y'ch cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw trwy'r Ysbryd.

← Llythyr Paul at yr Effesiaid 1Read In The App, Free →Llythyr Paul at yr Effesiaid 3 →

Study Llythyr Paul at yr Effesiaid 2

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456