The Bible Software
Llythyr Paul at yr Effesiaid · Beibl (1620)

Llythyr Paul at yr Effesiaid 5

1Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl;

2A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a'i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwrn ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd.

3Eithr godineb, a phob aflendid, neu gybydd-dra, nac enwer chwaith yn eich plith, megis y gweddai i saint;

4Na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch.

5Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am bob puteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw-addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw.

6Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod.

7Na fyddwch gan hynny gyfranogion a hwynt.

8Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni;

9(Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;)

10Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd.

11Ac na fydded i chwi gydgyfeillach a gweithredoedd anffrwyth lon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt.

12Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel.

13Eithr pob peth, wedi yr argyhoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw.

14Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti.

15Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel doethion;

16Gan brynu'r amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg.

17Am hynny na fyddwch annoethion, eithr yn deall beth yw ewyllys yr Arglwydd.

18Ac na feddwer chwi gan win, yn yr hyn y mae gormodedd; eithr llanwer chwi â'r Ysbryd;

19Gan lefaru wrth eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odiau ysbrydol; gan ganu a phyncio yn eich calon i'r Arglwydd;

20Gan ddiolch yn wastad i Dduw a'r Tad am bob peth, yn enw ein Harglwydd Iesu Grist;

21Gan ymddarostwng i'ch gilydd yn ofn Duw.

22Y gwragedd, ymostyngwch i'ch gwŷr priod, megis i'r Arglwydd.

23Oblegid y gŵr yw pen y wraig, megis ag y mae Crist yn ben i'r eglwys; ac efe yw Iachawdwr y corff.

24Ond fel y mae'r eglwys yn ddarostyngedig i Grist, felly hefyd bydded y gwragedd i'w gwŷr priod ym mhob peth.

25Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a'i rhoddes ei hun drosti;

26Fel y sancteiddiai efe hi, a'i glanhau a'r olchfa ddwfr trwy y gair;

27Fel y gosodai efe hi yn ogoneddus iddo ei hun, yn eglwys heb arni na brycheuyn na chrychni, na dim o'r cyfryw; ond fel y byddai yn sanctaidd ac yn ddifeius.

28Felly y dylai'r gwyâr garu eu gwragedd, megis eu cyrff eu hunain. Yr hwn a garo ei wraig, sydd yn ei garu ei hun.

29Canys ni chasaodd neb erioed ei gnawd ei hun, eithr ei fagu a'i feithrin y mae, megis ag y mae'r Arglwydd am yr eglwys:

30Oblegid aelodau ydym o'i gorff ef, o'i gnawd ef, ac o'i esgyrn ef.

31Am hynny y gad dyn ei dad a'i fam, ac y glŷn wrth ei wraig, a hwy a fyddant ill dau yn un cnawd.

32Y dirgelwch hwn sydd fawr: eithr am Grist ac am yr eglwys yr wyf fi yn dywedyd.

33Ond chwithau hefyd cymain un, felly cared pob un ohonoch ei wraig, fel ef ei hunan; a'r wraig edryched ar iddi berchi ei gŵr.

← Llythyr Paul at yr Effesiaid 4Read In The App, Free →Llythyr Paul at yr Effesiaid 6 →

Study Llythyr Paul at yr Effesiaid 5

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Robertson's Word PicturesReina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456