Llyfr Exodus 16:6
A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr Arglwydd a’ch dug chwi allan o wlad yr Aipht.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 12:51Ac o fewn corph y dydd hwnnw y dug yr Arglwydd feibion Israel o wlad yr Aipht, yn ol eu lluoedd.
Exodus 16:8Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gig i’w fwytta, a’r bore fara eich gwala; am glywed o’r Arglwydd eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: o herwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr Arglwydd.
Exodus 32:1ac yn gweddïo dros y bobl. Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gwr a’n dug ni i fynu o wlad yr Aipht, ni wyddom beth a ddaeth o hono.
Exodus 32:11A Moses a ymbiliodd ger bron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, Paham, Arglwydd, yr ennyna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aipht, trwy nerth mawr, a llaw gadarn?
Numbers 16:30Ond os yr Arglwydd a wna newydd-beth, fel yr agoro y ddaear ei safn, a’u llyngcu hwynt, a’r hyn oll sydd eiddynt, fel y disgynont yn fyw i uffern; yna y cewch wybod ddigio o’r gwŷr hyn yr Arglwydd.
Psalms 81:11Hi a estynnodd ei changau hyd y môr, a’i blagur hyd yr afon.