Llyfr Josua 10:39
Ac efe a’i hennillodd hi, ei brenhin, a’i holl ddinasoedd; a hwy a’u tarawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un y’ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i’w brenhin; megis y gwnelsai efe i Libnah, ac i’w brenhin.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
38¶ A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gyd âg ef, i Debir; ac a ymladdodd i’w herbyn.
Cross References
Deuteronomy 3:3Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenhin Basan, a’i holl bobl; ac ni a’i tarawsom ef, hyd na adawyd iddo un y’ngweddill:
Joshua 10:37A hwy a’i hennillasant hi, ac a’i tarawsant hi â min y cleddyf, a’i brenhin, a’i holl ddinasoedd, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un y’ngweddiil, yn ol yr hyn oll a wnaethai efe i Eglon: canys efe a’i difrododd hi, a phob enaid ag oedd ynddi.
Joshua 11:8A’r Arglwydd a’u rhoddodd hwynt yn llaw Israel; a hwy a’u tarawsant hwynt, ac a’u herlidiasant hyd Sidon fawr, ac hyd Misrephoth-maim, ac hyd glyn Mispeh o du y dwyrain; a hwy a’u tarawsant hwynt, fel na adawodd efe o honynt un y’ngweddill.
1 Samuel 15:3DOS yn awr, a tharo Amalec, a dinistria yr hyn oll sydd ganddo, ac nac eiriach ef; ond lladd hwynt, yn ŵr ac yn wraig, yn ddyn bach ac yn blentyn sugno, yn ych ac yn oen, yn gamel ac yn asyn. º
2 Kings 10:11Felly Jehu a drawodd holl weddillion tŷ Ahab yn Jesreel, a’i holl benaethiaid ef, a’i gyfneseifiaid ef, a’i offeiriaid, ‘fel na adawyd un yng ngweddill. º