The Bible Software
Llyfr Josua · Beibl (1620)

Llyfr Josua 10

1Josua yn dychwelyd i Gilgal. A phan glybu Adonisedec brenhin Jerusalem i Josua ennill Ai, a’i difrodi hi, (fel y gwnelsai efe i Jericho ac i’w brenhin, felly y gwnaethai efe i Ai ac i’w brenhin,) a heddychu o drigolion Gibeon âg Israel, a’u bod yn eu mysg hwynt:

2Yna yr ofnasant yn ddirfawr; oblegid dinas fawr oedd Gibeon, fel un o’r dinasoedd brenhinol; ac o herwydd ei bod yn fwy nag Ai; ei holl wŷr hefyd oedd gedyrn.

3Am hynny Adonisedec brenhin Jerusalem a anfonodd at Hoham brenhin Hebron, ac at Piram brenhin Jarmuth, ac at Japhia brenhin Lachis, ac at Debir brenhin Eglon, gan ddywedyd,

4Deuwch i fynu attaf fi, a chynnorthwywch fi, fel y tarawom ni Gibeon: canys hi a heddychodd â Josua, ac â meibion Israel.

5Am hynny pùm brenhin yr Amoriaid a ymgynnullasant, ac a ddaethant i fynu, sef brenhin Jerusalem, brenhin Hebron, brenhin Jarmuth, brenhin Lachis, a brenhin Eglon, hwynt-hwy a’u holl fyddinoedd, ac a wersyllasant wrth Gibeon, ac a ryfelasant yn ei herbyn hi.

6¶ A gwŷr Gibeon a anfonasant at Josua i’r gwersyll i Gilgal, gan ddywedyd, Na thỳn ymaith dy ddwylaw oddi wrth dy weision: tyred i fynu yn fuan attom ni, achub ni hefyd, a chynnorthwya ni: canys holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai sydd yn trigo yn y mynydd-dir, a ymgynnullasant i’n herbyn ni.

7Felly Josua a esgynodd o Gilgal, efe a’r holi bobl o ryfel gyd âg ef, a’r holl gedyrn nerthol.

8¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Josua, Nac ofna rhagddynt: canys yn dy law di y rhoddais hwynt; ni saif neb o honynt yn dy wyneb di.

9Josua gan hynny a ddaeth yn ddïattreg attynt hwy: canys ar hyd y nos yr aeth efe i fynu o Gilgal.

10A’r Arglwydd a’u drylliodd hwynt o flaen Israel, ac a’u tarawodd hwynt â lladdfa fawr yn Gibeon, ac a’u hymlidiodd hwynt ffordd yr eir i fynu i Beth-horon, ac a’u tarawodd hwynt hyd Azecah, ac hyd Maccedah.

11A phan oeddynt yn ffoi o flaen Israel, a hwy y’ngoriwaered Beth-horon, yr Arglwydd a fwriodd arnynt hwy gerrig mawrion o’r nefoedd hyd Azecah; a buant feirw: amlach oedd y rhai a fu feirw gan y cerrig cenllysg, na’r rhai a laddodd meibion Israel â’r cleddyf.

12¶ Llefarodd Josua wrth yr Arglwydd y dydd y rhoddodd yr Arglwydd yr Amoriaid o flaen meibion Israel: ac efe a ddywedodd y’ngolwg Israel, O haul, aros yn Gibeon; a thithau, leuad, yn nyffryn Ajalon.

13A’r haul a arhosodd, a’r lleuad a safodd, nes i’r genedl ddïal ar eu gelynion. Onid yw hyn yn ysgrifenedig yn llyfr yr Uniawn? Felly yr haul a safodd y’nghanol y nefoedd, ac ni frysiodd i fachludo dros ddiwrnod cyfan.

14Ac ni bu y fath ddiwrnod a hwnnw o’i flaen ef, nac ar ei ol ef, fel y gwrandawai yr Arglwydd ar lef dyn: canys yr Arglwydd a ymladdodd dros Israel.

15¶ A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gyd âg ef, i’r gwersyll i Gilgal.

16Ond y pùm brenhin hynny a ffoisant, ac a ymguddiasant mewn ogof ym Maccedah.

17A mynegwyd i Josua, gan ddywedyd, Y pùm brenhin a gafwyd y’nghûdd mewn ogof ym Maccedah.

18A dywedodd Josua, Treiglwch feini mawrion ar enau yr ogof, a gosodwch wrthi wŷr i’w cadw hwynt:

19Ac na sefwch chwi; erlidiwch ar ol eich gelynion, a tharêwch y rhai olaf o honynt; na adêwch iddynt fyned i’w dinasoedd: canys yr Arglwydd eich Duw a’u rhoddodd hwynt yn eich llaw chwi.

20A phan ddarfu i Josua a meibion Israel eu taro hwynt â lladdfa fawr iawn, nes eu difa; yna y gweddillion a adawsid o honynt a aethant i’r dinasoedd caerog.

21A’r holl bobl a ddychwelasant i’r gwersyll at Josua ym Maccedah mewn heddwch, heb symmud o neb ei dafod yn erbyn meibion Israel.

22A Josua a ddywedodd, Agorwch enau yr ogof, a dygwch allan y pùm brenhin hynny attaf fi o’r ogof.

23A hwy a wnaethant felly, ac a ddygasant allan y pùm brenhin atto ef o’r ogof; sef brenhin Jerusalem, brenhin Hebron, brenhin Jarmuth, brenhin Lachis, a brenhin Eglon.

24A phan ddygasant hwy y brenhinoedd hynny at Josua, yna Josua a alwodd am holl wŷr Israel, ac a ddywedodd wrth dywysogion y rhyfelwyr, y rhai a aethai gyd âg ef, Nesêwch, gosodwch eich traed ar yddfau y brenhinoedd hyn. A hwy a nesasant, ac a osodasant eu traed ar eu gyddfau hwynt.

25A Josua a ddywedodd wrthynt, Nac ofnwch, ac nac arswydwch; eithr ymwrolwch, ac ymegnïwch: canys fel hyn y gwna yr Arglwydd i’ch holl elynion yr ydych chwi yn ymladd i’w herbyn.

26Ac wedi hyn Josua a’u tarawodd hwynt, ac a’u rhoddodd i farwolaeth, ac a’u crogodd hwynt ar bùm pren: a buant y’nghrog ar y prennau hyd yr hwyr.

27Ac ym mhryd machludo haul, y gorchymynodd Josua iddynt eu disgyn hwynt oddi ar y prennau, a’u bwrw hwynt i’r ogof yr ymguddiasant ynddi; a bwriasant gerrig mawrion y’ngenau yr ogof, y rhai sydd yno hyd gorph y dydd hwn.

28¶ Josua hefyd a ennillodd Maccedah y dwthwn hwnnw, ac a’i tarawodd hi â min y cleddyf, ac a ddifrododd ei brenhin hi, hwynt-hwy, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un gweddill: canys efe a wnaeth i frenhin Maccedah, fel y gwnaethai i frenhin Jericho.

29¶ Yna yr aeth Josua a holl Israel gyd âg ef o Maccedah i Libnah, ac a ymladdodd yn erbyn Libnah.

30A’r Arglwydd a’i rhoddodd hithau, a’r brenhin, yn llaw Israel; ac yntau a’i tarawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid a’r oedd ynddi; ni adawodd ynddi un yng ngweddill: canys efe a wnaeth i’w brenhin hi fel y gwnelsai i frenhin Jericho.

31¶ A Josua a dramwyodd, a holl Israel gyd âg ef, o Libnah i Lachis; ac a wersyllodd wrthi, ac a ymladdodd i’w herbyn.

32A’r Arglwydd a roddodd Lachis yn llaw Israel; yr hwn a’i hennillodd hi yr ail ddydd, ac a’i tarawodd hi â min y cleddyf, a phob enaid ag oedd ynddi, yn ol yr hyn oll a wnaethai efe i Libnah.

33¶ Yna Horam brenhin Geser a ddaeth i fynu i gynnorthwyo Lachis: a Josua a’i tarawodd ef a’i bobl, fel na adawyd iddo ef un y’ngweddill.

34¶ A Josua a dramwyodd, a holl Israel gyd âg ef, o Lachis i Eglon: a hwy a wersyllasant wrthi, ac a ymladdasant i’w herbyn.

35A hwy a’i hennillasant hi y diwrnod hwnnw, ac a’i tarawsant hi â min y cleddyf; ac efe a ddifrododd bob enaid a’r oedd ynddi y dwthwn hwnnw, yn ol yr hyn oll a wnaethai efe i Lachis.

36¶ A Josua a esgynodd, a holl Israel gyd âg ef, o Eglon i Hebron; a hwy a ryfelasant i’w herbyn.

37A hwy a’i hennillasant hi, ac a’i tarawsant hi â min y cleddyf, a’i brenhin, a’i holl ddinasoedd, a phob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un y’ngweddiil, yn ol yr hyn oll a wnaethai efe i Eglon: canys efe a’i difrododd hi, a phob enaid ag oedd ynddi.

38¶ A Josua a ddychwelodd, a holl Israel gyd âg ef, i Debir; ac a ymladdodd i’w herbyn.

39Ac efe a’i hennillodd hi, ei brenhin, a’i holl ddinasoedd; a hwy a’u tarawsant hwy â min y cleddyf, ac a ddifrodasant bob enaid ag oedd ynddi; ni adawodd efe un y’ngweddill: fel y gwnaethai efe i Hebron, felly y gwnaeth efe i Debir, ac i’w brenhin; megis y gwnelsai efe i Libnah, ac i’w brenhin.

40¶ Felly y tarawodd Josua yr holl fynydd-dir, a’r dehau, y gwastadedd hefyd, a’r bronnydd, a’u holl frenhinoedd: ni adawodd efe un y’ngweddill; eithr efe a ddifrododd bob perchen anadl, fel y gorchymynasai Arglwydd Dduw Israel.

41A Josua a’u tarawodd hwynt o Cades-Barnea, hyd Gazah, a holl wlad Gosen, hyd Gibeon.

42Yr holl frenhinoedd hyn hefyd a’u gwledydd a ennillodd Josua ar unwaith: canys Arglwydd Dduw Israel oedd yn ymladd dros Israel.

43Yna y dychwelodd Josua, a holl Israel gyd âg ef, i’r gwersyll yn Gilgal.

← Llyfr Josua 9Read In The App, Free →Llyfr Josua 11 →

Study Llyfr Josua 10

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324