The Bible Software
Yr Efengyl yn ôl Mathew · Beibl (1620)

Yr Efengyl yn ôl Mathew 1

1LLYFR cenhedliad Iesu Grist fab Da­fydd, fab Abraham.

2Abraham a genhedlodd Isaac; ac Isaac a genhedlodd Jacob; a Jacob a genhedlodd Judas a'i frodyr;

3A Judas a genhedlodd Phares a Zara o Thamar; a Phares a genhedlodd Esrom; ac Esrom a genhedlodd Aram;

4Ac Aram a genhedlodd Aminadab; ac Aminadab a genhedlodd Naasson; a Naasson a genhedlodd Salmon;

5A Salmon a genhedlodd Booz o Rachab; a Booz a genhedlodd Obed o Ruth; ac Obed a genhedlodd Jesse;

6A Jesse a genhedlodd Dafydd frenhin; a Dafydd frenhin a genhedlodd Solomon o'r hon a fuasai wraig Urias;

7A Solomon a genhedlodd Roboam; a Roboam a genhedlodd Abia; ac Abia a genhedlodd Asa;

8Ac Asa a genhedlodd Josaphat; a Josaphat a genhedlodd Joram; a Joram a genhedlodd Ozias;

9Ac Ozias a genhedlodd Joatham; a Joatham a genhedlodd Achaz; ac Achaz a genhedlodd Ezecias;

10Ac Ezecias a genhedlodd Manasses; a Manasses a genhedlodd Amon; ac Amon a genhedlodd Josias;

11A Josias a genhedlodd Jechonias a'i frodyr, ynghylch amser y symmudiad i Babilon:

12Ac wedi y symmudiad i Babilon, Jechonias a genhedlodd Salathiel; a Salathiel a genhedlodd Zorobabel;

13A Zorobabel a genhedlodd Abïud; ac Abïud a genhedlodd Eliacim; ac Eliacim a genhedlodd Azor;

14Ac Azor a genhedlodd Sadoc; a Sadoc a genhedlodd Achim; ac Achim a genhedlodd Eliud

15Ac Eliud a genhedlodd Eleazar; ac Eleazar a genhedlodd Matthan; a Matthan a genhedlodd Jacob; mynasai angel yr Arglwydd iddo, ac a gymmerodd ei wraig: 25 Ac nid adnabu efe hi hyd oni esgorodd hi ar ei mab cyntaf-anedig. A galwodd ei enw ef IESU.

← Llyfr Malachi 4Read In The App, Free →Yr Efengyl yn ôl Mathew 2 →

Study Yr Efengyl yn ôl Mathew 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesThe Fourfold GospelJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728