The Bible Software
Llyfr Micha · Beibl (1620)

Llyfr Micha 2

1Gwae a ddychmygo anwiredd, ac a wnelo ddrygioni ar eu gwelyau! pan oleuo y bore y gwnânt hyn; am ei fod ui eu dwylo.

2Meysydd a chwenychant hefyd, ac a ddygant trwy drais; a theiau, ac a'u dygant: gorthrymant hefyd w^r a'i dŷ, dyn a'i etifeddiaeth.

3Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Wele, yn erbyn y teulu hwn dychmygais ddrwg, yr hwn ni thynnwch eich gyddfau ohono, ac ni rodiwch yn falch; canys amser drygfyd yw.

4Yn y dydd hwnnw y cyfyd un ddameg amdanoch chwi, ac a alara alar gofidus, gan ddywedyd, Dinistriwyd ni yn llwyr; newidiodd ran fy mhobl: pa fodd y dug ef oddi arnaf! gan droi ymaith, efe a rannodd ein meysydd.

5Am hynny ni bydd i ti a fwrio reffyn coelbren yng nghynulleidfa yr ARGLWYDD.

6Na phroffwydwch, meddant wrth y rhai a broffwydant: ond ni phroffwydant iddynt na dderbyniont gywilydd.

7O yr hon a elwir tŷ Jacob, a fyrhawyd ysbryd yr ARGLWYDD? ai dyma ei weithredoedd ef? oni wna fy ngeiriau i'r neb a rodio yn uniawn?

8Y rhai oedd fy mhobl ddoe, a godasant yn elyn: diosgwch y dilledyn gyda'r wisg oddi am y rhai a ânt heibio yn ddiofal, fel rhai yn dychwelyd o ryfel.

9Gwragedd fy mhobl a fwriasoch allan o dŷ eu hyfrydwch; a dygasoch oddi ar eu plant hwy fy harddwch byth.

10Codwch, ac ewch ymaith; canys nid dyma eich gorffwysfa: am ei halogi, y dinistria hi chwi â dinistr tost.

11Os un yn rhodio yn yr ysbryd a chelwydd, a ddywed yn gelwyddog, Proffwydaf i ti am win a diod gadarn; efe a gaiff fod yn broffwyd i'r bobl hyn.

12Gan gasglu y'th gasglaf, Jacob oll: gan gynnull cynullaf weddill Israel; gosodaf hwynt ynghyd fel defaid Bosra, fel y praidd yng nghanol eu corlan: trystiant rhag amled dyn.

13Daw y rhwygydd i fyny o'u blaen hwynt; rhwygasant, a thramwyasant trwy y porth, ac aethant allan trwyddo, a thramwya eu brenin o'u blaen, a'r ARGLWYDD ar eu pennau hwynt.

← Llyfr Micha 1Read In The App, Free →Llyfr Micha 3 →

Study Llyfr Micha 2

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567