The Bible Software
Llyfr Micha · Beibl (1620)

Llyfr Micha 6

1Gwrandewch, atolwg, y peth a ddywed yr ARGLWYDD; Cyfod, ymddadlau â'r mynyddoedd, a chlywed y bryniau dy lais.

2Gwrandewch, y mynyddoedd, a chedyrn sylfeini y ddaear, gw^yn yr ARGLWYDD; canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a'i bobl, ac efe a ymddadlau ag Israel.

3Fy mhobl, beth a wneuthum i ti? ac ym mha beth y'th flinais? tystiolaetha i'm herbyn. 14 Canys mi a'th ddygais o dir yr Aifft, ac a'th ryddheais o dŷ y caethiwed, ac a anfonais o'th flaen Moses, Aaron, a Miriam.

4

5Fy mhobl, cofia, atolwg, beth a fwriadodd Balac brenin Moab, a pha ateb a roddes Balaam mab Beor iddo, o Sittim hyd Gilgal; fel y galloch wybod cyfiawnder yr ARGLWYDD.

6A pha beth y deuaf gerbron yr ARGLWYDD, ac yr ymgrymaf gerbron yr uchel DDUW? a ddeuaf fi ger ei fron ef â phoethonrymau, ac â dyniewaid?

7A fodlonir yr ARGLWYDD â miloedd oi feheryn, neu â myrddiwn o ffrydiau olew? a roddaf fi fy nghyntaf-anedig dros fy anwiredd, ffrwyth fy nghroth dros bechod fy enaid?

8Dangosodd efe i ti, ddyn, beth sydd dda: a pha beth a gais yr ARGLWYDD gennyt, ond gwneuthur barn, a hoffi trugaredd, ac ymostwng i rodio gyda'th DDUW?

9Llef yr ARGLWYDD a lefa ar y ddinas, a’r doeth a wêl dy enw: gwrandewch y wialen, a phwy a'i hordeiniodd.

10A oes eto drysorau anwiredd o fewn tŷ y gw^r anwir, a'r mesur prin, peth sydd ffiaidd?

11A gyfrifwn yn lân un â chloriannau anwir, ac â chod o gerrig twyllodrus?

12Canys y mae ei chyfoethogion yn llawn trais, a'i thrigolion a ddywedasant gelwydd; a'u tafod sydd dwyllodrus yn eu genau.

13A minnau hefyd a'th glwyfaf wrth dy daro, wrth dy anrheithio am dy bechodau.

14Ti a fwytei, ac ni'th ddigonir; a'th ostyngiad fydd yn dy ganol dy hun: ti a ymefli, ac nid achubi; a'r hyn a achubych, a roddaf i'r cleddyf.

15Ti a heui, ond ni fedi; ti a sethri yr olewydd, ond nid ymiri ag olew; a gwin newydd, ond nid yfi win.

16Cadw yr ydys ddeddfau Omri, a holl weithredoedd Ahab, a rhodio yr ydych yn eu cynghorion: fel y'th wnawn yn anghyfannedd, a'i thrigolion i'w hwtio: am hynny y dygwch warth fy mhobl.

← Llyfr Micha 5Read In The App, Free →Llyfr Micha 7 →

Study Llyfr Micha 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567