The Bible Software
Llyfr Micha · Beibl (1620)

Llyfr Micha 4

1A bydd yn niwedd y dyddiau, i fynydd tŷ yr ARGLWYDD fod wedi ei sicrhau ym mhen y mynyddoedd; ac efe a ddyrchefir goruwch y bryniau; a phobloedd a ddylifant ato.

2A.chenhedloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny i fynydd yr ARGLWYDD, ac i dŷ DDUW Jacob; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd, ac yn ei lwybrau y rhodiwn: canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.

3Ac efe a farna rhwng pobloedd lawer, ac a gerydda genhedloedd cryfion hyd ymhell; a thorrant eu cleddyfau yn sychau, a'u gwaywffyn yn bladuriau: ac ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.

4Ond eisteddant bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, heb neb i'w dychrynu; canys genau ARGLWYDD y lluoedd a'i llefarodd.

5Canys yr holl bobloedd a rodiant bob un yn enw ei dduw ei hun, a ninnau a rodiwn yn enw yr ARGLWYDD ein DUW byth ac yn dragywydd.

6Yn y dydd hwnnw, medd yr ARGLWYDD, y casglaf y gloff, ac y cynullaf yr hon a yrrwyd allan, a'r hon a ddrygais:

7A gwnaf y gloff yn weddill, a'r hon a daflwyd ymhell, yn genedl gref; a'r ARGLWYDD a deyrnasa arnynt ym mynydd Seion o hyn allan byth.

8A thithau, tw^r y praidd, castell merch Seion, hyd atat y daw, ie, y daw yr arglwyddiaeth bennaf, y deyrnas i ferch Jerwsalem.

9Paham gan hynny y gwaeddi waedd? onid oes ynot frenin? a ddarfu am dy gynghorydd? canys gwewyr a'th gymerodd megis gwraig yn esgor.

10Ymofidia a griddfana, merch Seion, fel gwraig yn esgor: oherwydd yr awr hon yr ei di allan o'r ddinas, a thrigi yn y maes, ti a ei hyd Babilon: yno y'th waredir, yno yr achub yr ARGLWYDD di o law dy elynion.

11Yr awr hon hefyd llawer o genhedloedd a ymgasglasant i'th erbyn, gan ddywedyd, Haloger hi, a gweled ein llygaid hynny ar Seion.

12Ond ni wyddant hwy feddyliau yr ARGLWYDD, ac ni ddeallant ei gyngor ef: canys efe a'u casgl hwynt fel ysgubau i'r llawr dyrnu.

13Cyfod, merch Seion, a dyrna; canys gwnaf dy gorn yn haearn, a'th garnau yn bres; a thi a ddrylli bobloedd lawer: a chysegraf i'r ARGLWYDD eu helw hwynt, a'u golud i ARGLWYDD yr holl ddaear.

← Llyfr Micha 3Read In The App, Free →Llyfr Micha 5 →

Study Llyfr Micha 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567