The Bible Software
Llythyr Paul at y Rhufeiniaid · Beibl (1620)

Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 12

1Am hynny yr wyf yn atolwg i chwi, frodyr, er trugareddau Duw, roddi ohonoch eich cyrff yn aberth byw, sanct¬aidd, cymeradwy gan Dduw; yr hyn yw eich rhesymol wasanaeth chwi.

2Ac na chydymffurfiwch â’r byd hwn: eithr ymnewidiwch trwy adnewyddiad eich meddwl; fel y profoch beth yw daionus, a chymeradwy, a pherffaith ewyllys Duw.

3Canys yr wyf yn dywedyd, trwy y gras a roddwyd i mi, wrth bob un a’r sydd yn eich plith, na byddo i neb uchel synied yn amgen nag y dylid synied; eithr synied i sobrwydd, fel y rhannodd Duw i bob un fesur ffydd.

4Canys megis y mae gennym aelodau lawer mewn un corff, ac nad oes gan yr holl aelodau yr un swydd:

5Felly ninnau, a ni yn llawer, ydym un corff yng Nghrist, a phob un yn aelodau i’w gilydd.

6A chan fod i ni amryw ddoniau yn ôl y gras a roddwyd i ni, pa un bynnag ai proffwydoliaeth, proffwydwn yn ôl cysondeb y ffydd;

7Ai gweinidogaeth, byddwn ddyfal yn y weinidogaeth; neu yr hwn sydd yn athrawiaethu, yn yr athrawiaeth;

8Neu yr hwn sydd yn cynghori, yn y cyngor: yr hwn sydd yn cyfrannu, gwnaed mewn symlrwydd; yr hwn sydd yn llywodraethu, mewn diwydrwydd; yr hwn sydd yn trugarhau, mewn llawenydd.

9Bydded cariad yn ddiragrith. Casewch y drwg, a glynwch wrth y da.

10Mewn cariad brawdol byddwch garedig i’ch gilydd; yn rhoddi parch, yn blaenori eich gilydd:

11Nid yn ddiog mewn diwydrwydd; yn wresog yn yr ysbryd; yn gwasanaethu yr Arglwydd:

12Yn llawen mewn gobaith; yn ddioddefgar mewn cystudd; yn dyfalbarhau mewn gweddi:

13Yn cyfrannu i gyfreidiau’r saint, ac yn dilyn lletygarwch.

14Bendithiwch y rhai sydd yn eich ymlid: bendithiwch, ac na felltithiwch.

15Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo.

16Byddwch yn unfryd â’ch gilydd: heb roi eich meddwl ar uchel bethau; eithr yn gydostyngedig â’r rhai iselradd. Na fyddwch ddoethion yn eich tyb eich hunain.

17Na thelwch i neb ddrwg am ddrwg. Darperwch bethau onest yng ngolwg pob dyn.

18Os yw bosibl, hyd y mae ynoch chwi, byddwch heddychlon â phob dyn.

19Nac ymddielwch, rai annwyl, ond rhoddwch le i ddigofaint: canys y mae yn ysgrifenedig, I mi y mae dial; myfi a dalaf, medd yr Arglwydd.

20Am hynny, os dy elyn a newyna, portha ef; os sycheda, dyro iddo ddiod: canys wrth wneuthur hyn ti a bentyrri farwor tanllyd ar ei ben ef.

21Na orchfyger di gan ddrygioni, eithr gorchfyga di ddrygioni trwy ddaioni.

← Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 11Read In The App, Free →Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 13 →

Study Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 12

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516