The Bible Software
Llythyr Paul at y Rhufeiniaid · Beibl (1620)

Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 3

1Pa ragoriaeth gan hynny sydd i’r Iddew? neu pa fudd sydd o’r enwaed¬iad?

2Llawer, ym mhob rhyw fodd: yn gyntaf, oherwydd darfod ymddiried iddynt hwy am ymadroddion Duw.

3Oblegid beth os anghredodd rhai? a wna eu hanghrediniaeth hwy ffydd Duw yn ofer?

4Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, Fel y’th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y’th farner.

5Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;)

6Na ato Duw: canys wrth hynny pa fodd y barna Duw y byd?

7Canys os bu gwirionedd Duw trwy nghelwydd i yn helaethach i’w ogoniant ef, paham y’m bernir innau eto megis pechadur?

8Ac nid, (megis y’n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn.

9Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o’r blaen fod pawb, yr Iddewon a’r Groegwyr, dan bechod;

10Megis y mae yn ysgrifenedig, Nid oes neb cyfiawn, nac oes un:

11Nid oes neb yn deall; nid oes neb yn ceisio Duw.

12Gwyrasant oll, aethant i gyd yn anfuddiol; nid oes un yn gwneuthur daioni, nac oes un.

13Bedd agored yw eu ceg; a’u tafodau y gwnaethant ddichell; gwenwyn asbiaid sydd dan eu gwefusau:

14Y rhai y mae eu genau yn llawn melltith a chwerwedd:

15Buan yw eu traed i dywallt gwaed:

16Distryw ac aflwydd sydd yn eu ffyrdd:

17A ffordd tangnefedd nid adnabuant:

18Nid oes ofn Duw gerbron eu llygaid.

19Ni a wyddom hefyd am ba bethau bynnag y mae’r ddeddf yn ei ddywedyd, mai wrth y rhai sydd dan y ddeddf y mae hi yn ei ddywedyd: fel y caeer pob genau, ac y byddo’r holl fyd dan farn Duw.

20Am hynny trwy weithredoedd y ddeddf ni chyfiawnheir un cnawd yn ei olwg ef; canys trwy’r ddeddf y mae adnabod pechod.

21Ac yr awr hon yr eglurwyd cyf¬iawnder Duw heb y ddeddf, wrth gael tystiolaeth gan y ddeddf a’r proffwydi;

22Sef cyfiawnder Duw, yr hwn sydd trwy ffydd Iesu Grist, i bawb ac ar bawb a gredant: canys nid oes gwahaniaeth:

23Oblegid pawb a bechasant, ac ydynt yn ôl am ogoniant Duw;

24A hwy wedi eu cyfiawnhau yn rhad trwy ei ras ef, trwy’r prynedigaeth sydd yng Nghrist Iesu:

25Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw;

26I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.

27Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd.

28Yr ydym ni gan hynny yn cyfrif mai trwy ffydd y cyfiawnheir dyn, heb weithredoedd y ddeddf.

29Ai i’r Iddewon y mae efe yn Dduw yn unig? onid yw i’r Cenhedloedd hefyd? Yn wir y mae efe i’r Cenhedloedd hefyd:

30Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad wrth ffydd, a’r dienwaediad trwy ffydd.

31Wrth hynny, a ydym ni yn gwneuthur y ddeddf yn ddi-rym trwy ffydd? Na ato Duw: eithr yr ydym yn cadarnhau’r ddeddf.

← Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 2Read In The App, Free →Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 4 →

Study Llythyr Paul at y Rhufeiniaid 3

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516