The Bible Software
Caniad Solomon · Beibl (1620)

Caniad Solomon 2

1Rhosyn Saron, a lili y dyffrynnoedd, ydwyf fi.

2Megis lili ymysg y drain, felly y mae fy anwylyd ymysg y merched.

3Megis pren afalau ymysg prennau y coed, felly y mae fy anwylyd ymhlith y meibion: bu dda gennyf eistedd dan ei gysgod ef, a’i ffrwyth oedd felys i’m genau.

4Efe a’m dug i’r gwindy, a’i faner drosof ydoedd gariad.

5Cynheliwch fi â photelau, cysurwch fi ag afalau; canys claf ydwyf fi o gariad.

6Ei law aswy sydd dan fy mhen, a’i ddeheulaw sydd yn fy nghofleidio.

7Merched Jerwsalem, tynghedaf chwi trwy iyrchod ac ewigod y maes, na chyffrôch, ac na ddeffrôch fy nghariad, hyd oni fynno ei hun.

8Dyma lais fy anwylyd! wele ef yn dyfod, yn neidio ar y mynyddoedd, ac yn llamu ar y bryniau.

9Tebyg yw fy anwylyd i iwrch neu lwdn hydd; wele efe yn sefyll y tu ôl i’n pared, yn edrych trwy y ffenestri, yn ymddangos trwy y dellt.

10Fy anwylyd a lefarodd, ac a ddywedr odd wrthyf, Cyfod, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth:

11Canys wele, y gaeaf a aeth heibio, y glaw a basiodd, ac a aeth ymaith;

12Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i’r adar i ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad,

13Y ffigysbren a fwriodd allan ei ffigys irion, a’r gwinwydd a’u hegin grawn a roddasant arogl teg. Cyfod di, fy anwylyd, a thyred di, fy mhrydferth.

14Fy ngholomen, yr hon wyt yn holltau y graig, yn lloches y grisiau, gad i mi weled dy wyneb, gad i mi glywed dy lais: canys dy lais sydd beraidd, a’th olwg yn hardd.

15Deliwch i ni y llwynogod, y llwynogod bychain, y rhai a ddifwynant y gwinllannoedd: canys y mae i’n gwinllannoedd egin grawnwin.

16Fy anwylyd sydd eiddof fi, a minnau yn eiddo yntau; y mae efe yn bugeilio ymysg y lili.

17Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cysgodau; tro, bydd debyg, fy anwylyd, i iwrch, neu lwdn hydd ym mynyddoedd Bether.

← Caniad Solomon 1Read In The App, Free →Caniad Solomon 3 →

Study Caniad Solomon 2

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678