The Bible Software
Caniad Solomon · Beibl (1620)

Caniad Solomon 7

1Mor deg yw dy draed mewn esgidiau, ferch pendefig! cymalau dy forddwydydd sydd fel tlysau, gwaith dwylo y cywraint.

2Dy fogail sydd fel gorflwch crwn, heb eisiau lleithder: dy fru fel twr gwenith wedi ei amgylchu â lili.

3Dy ddwy fron megis dau lwdn iwrch o efeilliaid.

4Dy wddf fel tŵr o ifori; dy lygaid fel pysgodlynnoedd yn Hesbon wrth borth Bethrabbim, dy drwyn fel tŵr Libanus yn edrych tua Damascus.

5Dy ben sydd arnat fel Carmel, a gwallt dy ben fel porffor; y brenin sydd wedi ei rwymo yn y rhodfeydd.

6Mor deg ydwyt, ac mor hawddgar, fy nghariad, a’m hyfrydwch!

7Dy uchder yma sydd debyg i balmwydden, a’th fronnau i’r grawnsypiau.

8Dywedais, Dringaf i’r balmwydden, ymaflaf yn ei cheinciau: ac yn awr dy fronnau fyddant megis grawnganghennau y winwydden, ac arogl dy ffroenau megis afalau;

9A thaflod dy enau megis y gwin gorau i’m hanwylyd, yn myned i waered yn felys, ac yn peri i wefusau y rhai a fyddo yn cysgu lefaru.

10Eiddo fy anwylyd ydwy fi, ac ataf fi y mae ei ddymuniad ef.

11Tyred, fy anwylyd, awn i’r maes, a lletywn yn y pentrefi.

12Boregodwn i’r gwinllannoedid, edrychwn a flodeuodd y winwydden, a agorodd egin y grawnwin, a flodeuodd y pomgranadau; yno y rhoddaf fy nghariad i ti.

13Y mandragorau a roddasant arogledd, ac wrth ein drysau y mae pob rhyw odidog ffrwythau, newydd a hen, y rhai a rois i gadw i ti, fy anwylyd.

← Caniad Solomon 6Read In The App, Free →Caniad Solomon 8 →

Study Caniad Solomon 7

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678