The Bible Software
Caniad Solomon · Beibl (1620)

Caniad Solomon 4

1Wele di yn deg, fy anwylyd, wele di yn deg; dy lygaid ydynt golomennaidd rhwng dy lywethau; dy wallt sydd fel diadell o eifr, y rhai a ymddangosant o fynydd Gilead.

2Dy ddannedd sydd fel diadell o ddefaid gwastatgnaif, y rhai a ddaethant i fyny o’r olchfa; y rhai oeddynt bob un yn dwyn dau oen, ac nid oedd un ynddynt yn ddiepil.

3Dy wefusau sydd fel edau ysgarlad, a’th barabl yn weddus: dy arleisiau rhwng dy lywethau sydd fel darn o bomgranad.

4Dy wddf sydd fel tŵr Dafydd, yr hwn a adeiladwyd yn dy arfau; tarianau fil sydd yn crogi ynddo, i gyd yn estylch y cedyrn.

5Dy ddwy fron sydd fel dau lwdn iwrch o efeilliaid yn pori ymysg lili.

6Hyd oni wawrio’r dydd, a chilio o’r cysgodau, af i fynydd y myrr, ac i fryn y thus.

7Ti oll ydwyt deg, fy anwylyd; ac nid oes ynot frycheuyn.

8Tyred gyda mi o Libanus, fy nyweddi, gyda mi o Libanus: edrych.o ben Amana, o gopa Senir a Hennon, o lochesau y llewod, o fynyddoedd y llewpardiaid.

9Dygaist fy nghalon, fy chwaer a’m dyweddi; dygaist fy nghalon ag un o’th lygaid, ag un gadwyn wrth dy wddf.

10Mor deg yw dy gariad, fy chwaer, a’m dyweddi! pa faint gwell yw dy gariad na gwin, ac arogl dy olew na’r holl beraroglau!

11Dy wefusau, fy nyweddi, sydd yn diferu fel dil mêl: y mae mêl a llaeth dan dy dafod, ac arogl dy wisgoedd fel arogl Libanus.

12Gardd gaeëdig yw fy chwaer, a’m dyweddi: ffynnon gloëdig, ffynnon seliedig yw.

13Dy blanhigion sydd berllan o bomgranadau, a ffrwyth peraidd, camffir, a nardus;

14Ie, nardus a saffrwn, calamus a sinamon, a phob pren thus, myrr, ac aloes, ynghyd â phob rhagorol berlysiau:

15Ffynnon y gerddi, ffynnon y dyfroedd byw, a ffrydiau o Libanus.

16Deffro di, ogleddwynt, a thyred, ddeheuwynt, chwyth ar fy ngardd, feliy gwasgarer ei pheraroglau: deaed fy anwylyd i’w ardd, a bwytaed ei ffrwyth peraidd ei hun.

← Caniad Solomon 3Read In The App, Free →Caniad Solomon 5 →

Study Caniad Solomon 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678