Llyfr Sechareia 1:3
Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Dychwelwch ataf fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd ARGLWYDD y lluoedd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Llwyr ddigiodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau.
Cross References
Deuteronomy 30:2A dychwelyd o honot at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrandaw ar ei lais ef, yn ol yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddyw, ti a’th blant, â’th holl galon, ac â’th holl enaid:
2 Chronicles 15:2Ac efe a aeth allan o flaen Asa, ac a ddywedodd wrtho, O Asa, a holl Jwda, a Benjamin, gwrandewch fi; Yr AR¬GLWYDD sydd gyda chwi, tra fyddoch gydag ef; ac os ceisiwch ef, chwi a’i cewch ef: ond os gwrthodwch chwi ef, yntau a’ch gwrthyd chwithau.
2 Chronicles 30:6Felly y rhedegwyr a aethant â’r llythyrau o law y brenin a’i dywysogion trwy holl Israel a Jwda, ac wrth orchymyn y brenin, gan ddywedyd, O feibion Israel, dychwelwch at ARGLWYDD DDUW Abra¬ham, Isaac, ac Israel, ac efe a ddychwel at y gweddill a ddihangodd ohonoch chwi o law brenhinoedd Asyria.
Isaiah 31:6Dychwelwch at yr hwn y llwyr giliodd meibion Israel oddi wrtho. º
Jeremiah 3:12Cerdda, a chyhoedda y geiriau hyn tua’r gogledd, a dywed, Ti Israel wrthnysig, dychwel, medd yr ARGLWYDD, ac ni adawaf i’m llid syrthio arnoch: canys trugarog ydwyf fi, medd yr AR¬GLWYDD, ni ddaliaf lid yn dragywydd.
Jeremiah 4:1Israel, os dychweli, dychwel ataf fi, medd yr ARGLWYDD: hefyd os rhoi heibio dy ffieidd-dra oddi ger fy mron, yna ni’th symudir.