The Bible Software
Llyfr Sechareia · Beibl (1620)

Llyfr Sechareia 1

1Yn yr wythfed mis o'r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd,

2Llwyr ddigiodd yr ARGLWYDD wrth eich tadau.

3Am hynny dywed wrthynt, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd, Dychwelwch ataf fi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a mi a ddychwelaf atoch chwithau, medd ARGLWYDD y lluoedd.

4Na fyddwch fel eich tadau, y rhai y galwodd y proffwydi o'r blaen arnynt, an ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Dychwelwch yn awr oddi wrth eich ffyrdd drwg, ac oddi wrth eich gweithredoedd drygionus: ond ni chlywent, ac ni wrandawent arnaf, medd yr ARGLWYDD.

5Eich tadau, pa le y maent hwy? a'r proffwydi, ydynt hwy yn fyw byth?

6Oni ddarfu er hynny i'm geiriau a'm deddfau, y rhai a orchmynnais wrth fy ngweision y proffwydi, oddiwes eich tadau? a hwy a ddychwelasant, ac a dywedasant, Megis y meddyliodd ARGLWYDD y lluoedd wneuthur i ni, yn ôl ein ffyrdd, ac yn ôl ein gweithredoedd ein hun, felly y gwnaeth efe â ni.

7Ar y pedwerydd dydd ar hugain o'r unfed mis ar ddeg, hwnnw yw mis Sebat, o'r ail flwyddyn i Dareius, y daeth gair yr ARGLWYDD at Sechareia, mab Baracheia, mab Ido y proffwyd, gan ddywedyd,

8Gwelais noswaith; ac wele w^r yn marchogaeth ar farch coch, ac yr oedd efe yn sefyll rhwng y myrt wydd y rhai oedd yn y pant; ac o'i ôl ef feirch cochion, brithion, a gwynion.

9Yna y dywedais, Beth yw y rhai hyn, fy arglwydd? A dywedodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi wrthyf, Mi a ddangosaf i ti beth yw y rhai hyn.

10A'r gw^r, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y myrtwydd, a atebodd ac a ddywedodd, Dyma y rhai a hebryngodd yr ARGLWYDD i ymrodio trwy y ddaear.

11A hwythau a atebasant angel yr ARGLWYDD, yr hwn oedd yn sefyll rhwng y coed myrt, ac a ddywedasant, Rhodiasom trwy y ddaear; ac wele yr holl ddaear yn eistedd, ac yn llonydd.

12Ac angel yr ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, O ARGLWYDD y lluoedd, pa hyd na thrugarhei wrth Jerwsalem, a dinasoedd Jwda, wrth y rhai y digiaist y deng mlynedd a thrigain hyn?

13A'r ARGLWYDD a atebodd yr angel oedd yn ymddiddan â mi, â geiriau daionus, a geiriau comfforddus.

14A'r angel yr hwn oedd yn ymddiddan â mi a ddywedodd wrthyf, Gwaedda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Deliais eiddigedd mawr dros Jerwsalem a thros Seion:

15A digiais yn ddirfawr wrth y cenhedloedd difraw; y rhai pan ddigiais ychydig, hwythau a gynorthwyasant y niwed.

16Am hynny fel hyn y dywed yr ARGLWYDD; Dychwelais at Jerwsalem â thrugareddau: fy nhy^ a adeiledir ynddi, medd ARGLWYDD y lluoedd, a llinyn a estynnir ar Jerwsalem.

17Gwaedda eto, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Fy ninasoedd a ymehangant gan ddaioni, a'r ARGLWYDD a rydd gysur i Seion eto, ac a ddewis Jerwsalem eto.

18A chodais fy llygaid, ac edrychais; ac wele, bedwar corn.

19A dywedais wrth yr angel oedd yn ymddiddan â mi, Beth yw y rhai hyn? Dywedodd yntau wrthyf, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, Israel, a Jerwsalem.

20A'r ARGLWYDD a ddangosodd i mi bedwar saer hefyd.

21Yna y dywedais, I wneuthur pa beth y daw y rhai hyn? Ac efe a lefarodd, gan ddywedyd, Y rhai hyn yw y cyrn a wasgarasant Jwda, fel na chodai un ei ben: ond y rhai hyn a ddaethant i'w tarfu hwynt, i daflu allan gyrn y Cenhedloedd, y rhai a godasant eu cyrn ar wlad Jwda i'w gwasgaru hi.

← Llyfr Haggai 2Read In The App, Free →Llyfr Sechareia 2 →

Study Llyfr Sechareia 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314