The Bible Software
Actau'r Apostolion · Beibl (1620)

Actau'r Apostolion 26

1A Agripa a ddywedodd wrth Paul, Y mae cennad i ti i ddywedyd drosot dy hunan. Yna Paul a estynnodd ei law, ac a’i hamddiffynnodd ei hun.

2Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, O frenin Agripa, gan fy mod yn cael fy amddiffyn fy hun ger dy fron di heddiw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gan yr Iddewon:

3Yn bendifaddau gan wybod dy fod di yn gydnabyddus â’r holl ddefodau a’r holion sydd ymhlith yr Iddewon: oherwydd paham yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrando i yn ddioddefgar.

4Fy muchedd i o’m mebyd, yr hon oedd o’r dechreuad ymhlith fy nghenedl yn Jerwsalem, a wŷr yr Iddewon oll;

5Y rhai a’m hadwaenent i o’r dechrau, (os mynnant dystiolaethu,) mai yn ôl y Sect fanylaf o’n crefydd ni y bûm i fyw yn Pharisead.

6Ac yn awr, am obaith yr addewid a wnaed i’n tadau gan Dduw, yr wyf yn sefyll i’m barnu:

7I’r hon addewid y mae ein deuddeg llwyth ni, heb dor yn gwasanaethu Duw nos a dydd, yn gobeithio dyfod. Am yr hwn obaith yr achwynir amaf, O frenin Agripa, gan yr Iddewon.

8Pa beth? ai anghredadwy y bernir gennych chwi, y cyfyd Duw y meirw?

9Minnau yn wir a dybiais ynof fy hun, fod yn rhaid i mi wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth.

10Yr hyn hefyd a wneuthum yn Jerw¬salem: a llawer o’r saint a gaeais i mewn carcharau, wedi derbyn awdurdod gan yr archoffeiriaid; ac wrth eu difetha, mi a roddais farn yn eu herbyn.

11Ac ym mhob synagog yn fynych mi a’u cosbais hwy, ac a’u cymhellais i gablu; a chan ynfydu yn fwy yn eu herbyn, mi a’u herlidiais hyd ddinasoedd dieithr hefyd.

12Ac yn hyn, a myfi yn myned i Ddamascus ag awdurdod a chennad oddi wrth yr archoffeiriaid,

13Ar hanner dydd, O frenin, ar y ffordd, y gwelais oleuni o’r nef, mwy na disgleirdeb yr haul, yn disgleirio o’m hamgylch, a’r rhai oedd yn ymdaith gyda mi.

14Ac wedi i ni oll syrthio ar y ddaear, mi a glywais leferydd yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd yn Hebraeg, Saul, Saul, paham yr ydwyt yn fy erlid i? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symbylau.

15Ac mi a ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid.

16Eithr cyfod, a saf ar dy draed: canys i hyn yr ymddangosais i ti, i’th osod di yn weinidog ac yn dyst o’r pethau a welaist, ac o’r pethau yr ymddangosaf i ti ynddynt;

17Gan dy wared di oddi wrth y bobl, a’r Cenhedloedd, at y rhai yr ydwyf yn dy anfon di yr awron,

18I agoryd eu llygaid, ac i’w troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran ymysg y rhai a sancteiddiwyd, trwy’r ffydd sydd ynof fi.

19Am ba achos, O frenin Agripa, ni bûm anufudd i’r weledigaeth nefol:

20Eithr mi a bregethais i’r rhai yn Namascus yn gyntaf, ac yn Jerwsalem, a thros holl wlad Jwdea, ac i’r Cenhed¬loedd; ar iddynt edifarhau, a dychwelyd at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd addas i edifeirwch.

21O achos y pethau hyn yr Iddewon a’m daliasant i yn y deml, ac a geisiasant fy lladd i a’u dwylo eu hun.

22Am hynny, wedi i mi gael help gan Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gan dystiolaethu i fychan a mawr, ac heb ddywedyd dim amgen nag a ddywedasai’r proffwydi a Moses y delent i ben;

23Y dioddefai Crist, ac y byddai efe yn gyntaf o atgyfodiad y meirw, ac y dangosai oleuni i’r bobl, ac i’r Cenhedloedd.

24Ac fel yr oedd efe yn dywedyd y pethau hyn trosto, Ffestus a ddywedodd â llef uchel, Paul, yr wyt ti yn ynfydu, llawer o ddysg sydd yn dy yrru di yn ynfyd.

25Ac efe a ddywedodd, Nid wyf fi yn ynfydu, O ardderchocaf Ffestus; eithr geiriau gwirionedd a sobrwydd yr wyf fi yn eu hadrodd.

26Canys y brenin a ŵyr oddi wrth y pethau hyn, wrth yr hwn yr wyf fi yn llefaru yn hy: oherwydd nid wyf yn tybied fod dim o’r pethau hyn yn guddiedig rhagddo; oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn.

27O frenin Agripa, A wyt ti yn credu i’r proffwydi? Mi a wn dy fod yn credu.

28Ac Agripa a ddywedodd wrth Paul, Yr wyt ti o fewn ychydig i’m hennill i fod yn Gristion.

29A Phaul a ddywedodd. Mi a ddymunwn gan Dduw, o fewn ychydig, ac yn gwbl oll, fod nid tydi yn unig, ond pawb hefyd a’r sydd yn fy ngwrando heddiw, yn gyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn.

30Ac wedi iddo ddywedyd hyn, cyfododd y brenin, a’r rhaglaw, a Bernice, a’r rhai oedd yn eistedd gyda hwynt:

31Ac wedi iddynt fyned o’r neilltu. hwy a lefarasant wrth ei gilydd, gan ddywedyd, Nid yw’r dyn hwn yn gwneuthur dim yn haeddu angau, neu rwymau.

32Yna y dywedodd Agripa wrth Ffestus, Fe allasid gollwng y dyn yma ymaith, oni buasai iddo apelio at Gesar.

← Actau'r Apostolion 25Read In The App, Free →Actau'r Apostolion 27 →

Study Actau'r Apostolion 26

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesJohn LightfootGeneva Bible Notes (1599)Robertson's Word PicturesReina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213141516171819202122232425262728